Cefnogi Rheolwr Technegol y Lleoliad (Neuadd William Aston) i gydlynu a darparu rheolaeth dechnegol a rheolaeth ar gyfleusterau'r lleoliad o ddydd i ddydd a chyflwyno'r holl gynyrchiadau, llogi a digwyddiadau yn ddiogel. Y nod yw cydlynu rhediad esmwyth y lleoliadau perfformio o fewn amserlenni a chyllidebau y cytunwyd arnynt, a sicrhau bod gweithdrefnau gweithio diogel yn eu lle bob amser. Byddwch yn rhagweithiol wrth gynorthwyo Rheolwr Technegol y Lleoliad i ddatblygu, cysylltu a chyflwyno'r holl weithgareddau, gan weithio gyda phartneriaid allanol a chwsmeriaid yn ôl yr angen, a dirprwyo yn ôl yr angen.

Oriau: 37 awr yr wythnos
Gradd: OP4
Cyflog cychwynnol: £24,545- £27,514 Y flwyddyn (yn aros dyfarniad cyflog)
Teulu: Profiad
Dyddiad cau: 4 Ebril 2024, 5pm

Bydd y gwaith o lunio rhestr fer o'r ceisiadau a’r cyfweliadau ar gyfer y rôl yn cael eu cynnal tra bydd yr hysbyseb yn fyw; bydd yr hysbyseb yn cau ar ôl dod o hyd i'r ymgeisydd (ymgeiswyr) llwyddiannus. Anogir ymgeiswyr felly i gyflwyno ceisiadau cyn gynted â phosibl.

Dyddiad cau: 04/04/2024