Dyddiad dechrau: Yn ddelfrydol erbyn dydd Llun, 29 Gorffennaf 2024

Dyddiad Gorffen: Canol Rhagfyr 2024

Oriau: 35 awr o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 6pm, gyda rhywfaint o hyblygrwydd yn bosibl

Lleoliad: yn y cartref, gweithio o bell, unrhyw le yn y DU

Cyflog: 20,820.80 pro rata

Dyddiad cau: 9am dydd Llun, 8 Gorffennaf

Cyfweliadau: fe’u cynhelir o bell ddydd Iau, 18 Gorffennaf

 

Mae Little Wander yn gwmni cynhyrchu comedi sy’n creu gwyliau, teithiau, digwyddiadau byw, teledu, radio a phodlediadau. Mae'r swydd hon yn gofyn i chi ddarparu cymorth gweinyddol a dylunio i'r adrannau digwyddiadau byw, teithiau a marchnata yn ogystal â phrosiectau ad hoc.

 

Prif gyfrifoldebau:

  • Coladu adroddiadau swyddfa docynnau a mewnbynnu data arall
  • Mynd ar drywydd broliannau (blurbs) a gofynion technegol 
  • Cydgysylltu â lleoliadau, perfformwyr, asiantau a rhanddeiliaid eraill
  • Fformatio dogfennau
  • Creu asedau marchnata 
  • Creu cynnwys cyfryngau cymdeithasol a phostio i gyfrifon a phlatfformau lluosog
  • Cymorth gweinyddol cyffredinol ar draws adrannau prysur yn ôl yr angen

 

Profiad hanfodol:

- Blwyddyn o brofiad gweinyddol proffesiynol mewn swyddfa neu amgylchedd cyfatebol NEU fyfyriwr graddedig diweddar gyda gradd berthnasol

- Yn medrus gyda rhaglenni Google Suite a Microsoft Office

- Profiad gyda Photoshop a/neu Canva a/neu feddalwedd dylunio cyfatebol

- Profiad gyda phlatfformau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Twitter ac Instagram

- Ymrwymiad i wneud cynnwys yn hygyrch 

 

Manyleb person:

- Diddordeb mewn comedi a'r diwydiant comedi

- Sgiliau trefnu ac effeithlonrwydd rhagorol i weithio ar draws adrannau prysur lluosog

- Sylw manwl i fanylion

- Hyder i ofyn am gymorth pan fo angen

- Brwdfrydedd i weithio'n annibynnol yn aml a chymryd perchnogaeth o'r llwyth gwaith

 

Dymunol ond ddim yn hanfodol:

- Yn hyfedr mewn tasgau dylunio mwy cymhleth fel GIFs

- Dealltwriaeth o farchnata, dylunio ac iaith dechnegol ar gyfer digwyddiadau byw

- Profiad o weithio fel rhan o dîm o bell

- Profiad o weithio gyda pherfformwyr a/neu ddigwyddiadau byw

- Cymro a/neu yn byw yng Nghymru a/neu’n siaradwr Cymraeg

 

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb yn enwedig y rhai sy’n nodi eu bod yn BIPOC a/neu’n aelodau o’r mwyafrif byd-eang a/neu’n anabl a/neu rywedd sydd ar y cyrion a/neu sydd wedi’u difreinio’n economaidd a/neu fel aelod o unrhyw gymuned arall nad yw’n cael ei hystyried yn ddigonol.

 

Proses ymgeisio:

Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr hir i gwblhau rhai tasgau damcaniaethol er mwyn rhoi cyfle i'r ddwy ochr weld a yw'r swydd yn gweddu. Ni ddylai'r rhain gymryd mwy na 30 munud ac ni fydd atebion yn cael eu defnyddio y tu allan i'r broses ymgeisio. Bydd y rhestr hir yn digwydd ddydd Llun, 8 Gorffennaf, gyda dyddiad cau o 9am ddydd Llun, 15 Gorffennaf i ddychwelyd y tasgau.

Os ydych chi wedi gwneud cais am swydd gyda Little Wander o'r blaen ac wedi cwblhau tasgau tebyg, gallwch hepgor y rhan hon o'r broses os yw'n well gennych.

O hyn, bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliadau a gynhelir ddydd Iau, 18 Gorffennaf.

 

I wneud cais:

Anfonwch e-bost at jo@littlewander.co.uk gydag unrhyw gwestiynau neu gyda llythyr eglurhaol byr a CV i wneud cais. Croesewir ceisiadau fideo hefyd. 

Dyddiad cau: 08/07/2024