Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, yr Alban Greadigol, Cyngor Celfyddydau Lloegr a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn ymuno i greu XRtistiaid, rhaglen £6 miliwn a 3 blynedd i ddatblygu cyfleoedd sgiliau ac ariannu mewn cynhyrchu cynnwys ymdrwythol ar draws sector diwylliannol Prydain.

Heddiw, mae'r partneriaid wedi lansio galwad i wahodd ceisiadau gan gonsortia o brifysgolion, sefydliadau ymchwil annibynnol, sefydliadau diwylliannol a busnesau creadigol i gyflawni'r rhaglen. O 2024 ymlaen, bydd y consortiwm llwyddiannus yn cynnig rhaglenni hyfforddiant a chyfleoedd ariannu ym maes cynhyrchu cynnwys ymdrwythol ar gyfer artistiaid a sefydliadau diwylliannol gan gynnwys amgueddfeydd. Bydd arddangosfa flynyddol i'r diwydiant yn cefnogi datblygiad a dosbarthiad parhaus y gwaith a gynhyrchir. Bydd y consortiwm hefyd yn cynnal ymchwil i wneud y mwyaf o botensial y prosiectau y maent yn eu hariannu a allai gynnwys astudio modelau busnes newydd ar gyfer cynnwys ymdrwythol, ymchwilio i ymddygiad cynulleidfaoedd ymdrwythol neu i ffyrdd arloesol o ddosbarthu prosiectau ymdrwythol.

Bydd gan y rhaglen bresenoldeb ym mhob cenedl ym Mhrydain a bydd yn canolbwyntio ar wneud yn siŵr bod pobl o bob cefndir yn gallu cymryd rhan mewn cynhyrchu digidol ymdrwythol a mwynhau manteision technoleg ymdrwythol fel cynulleidfaoedd.

Bydd XRtistiaid yn adeiladu ar lwyddiant rhaglenni blaenorol megis Clystyrau Diwydiannau Creadigol a CreativeXR a oedd yn dangos effeithiau cadarnhaol cydweithio rhwng sefydliadau diwylliannol, technolegwyr creadigol ac ymchwilwyr mewn prifysgolion.

Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae'n bwysig ein bod ni fel arianwyr yn cefnogi artistiaid a phobl greadigol i archwilio sut y gallwn godi safon y celfyddydau a sut maent yn cysylltu â chynulleidfaoedd nawr ac yn y dyfodol.

"Mae gwneud hyn mewn partneriaeth â chydweithwyr yng ngwledydd eraill Prydain  yn creu cyfleoedd unigryw, cynhwysol i rannu dysgu, cydweithio a chynyddu'r posibiliadau o dechnoleg greadigol er mwyn rhannu profiadau ac adrodd straeon ag effaith."

Dywedodd Karly Greene, Cyfarwyddwr Datblygu Strategol a Phartneriaethau Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon:

"Mae Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon yn falch iawn o fod yn rhan o'r fenter celfyddydau a diwydiannau creadigol ledled Prydain. Gyda chefnogaeth ein harian gan y Loteri Genedlaethol ym mlwyddyn un, bydd y rhaglen bwysig hon sy’n para 3 blynedd yn hwb anferth i bobl greadigol sy'n gobeithio datblygu syniadau, hyfforddiant a sgiliau. Mae’r rhai sy'n elwa o'r arian yn cael rhannu eu dysgu a'u datblygiad prosiect ag eraill drwy blatfform arddangos a dyma’r union ethos y mae Cyngor y Celfyddydau yn ei gefnogi."

Dywedodd Morgan Petrie, Rheolwr Diwydiannau Creadigol yr Alban Greadigol:

"Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda'n partneriaid ym Mhrydain i gefnogi mabwysiadu a gweithredu technolegau ymdrwythol yn y diwydiannau creadigol yn yr Alban. Rydym yn rhagweld y bydd rhaglen XRtistiaid yn rhoi cyfle i fusnesau creadigol a sefydliadau celfyddydol perfformio arbrofi i ddatblygu ffyrdd newydd o gyrraedd cynulleidfaoedd, ac o bosibl gynhyrchu refeniw ychwanegol."

Dywedodd Darren Henley, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Lloegr:

"Rydym yn gwybod y gall pethau gwych ddigwydd pan fyddwn yn dod ag artistiaid a phobl greadigol ynghyd â thechnolegwyr ac ymchwilwyr. Rydym wrth ein bodd i lansio XRtistiaid a fydd yn tynnu ar y cyfoeth o dalent greadigol ar draws ein celfyddydau perfformio, ein horielau, ein hamgueddfeydd a’n sefydliadau diwylliannol eraill i ddatgloi syniadau a cheisiadau newydd ar gyfer technoleg ymdrwythol a datblygu sgiliau yn y technolegau grymus sy'n dod i'r amlwg ar draws y sector diwylliannol."

Dywedodd yr Athro Christopher Smith, Cadeirydd Gweithredol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau:

"Mae technoleg greadigol yn hanfodol i sector diwydiannau creadigol llewyrchus Prydain ac mae'n newid drwy'r amser.

"Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod y dechnoleg hon yn gallu cyrraedd yn eang ac yn ddwfn ar draws Prydain ac rydym wrth ein bodd i bartneru â Chynghorau Celfyddydau'r Pedair Gwlad i gefnogi Prydain greadigol.

"Bydd XRtistiaid yn adeiladu ar y buddsoddiad blaenorol i ddatgloi arloesedd a thwf economaidd a bydd yn dod â grym technoleg ymdrwythol i gynulleidfaoedd a phartneriaid newydd."

Cewch ragor o wybodaeth am XRtistiaid a sut i wneud cais yma.