Mae Theatr y Sherman gyda chefnogaeth gan Theatr Genedlaethol Cymru, yn chwilio am Gyfarwyddydd dan Hyfforddiant sy’n siarad Cymraeg i weithio ar ein Sioeau Nadolig hwyliog i blant rhwng 3 a 6 oed.
Mae Theatr y Sherman wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i gyfarwyddwyr Cymreig newydd o bob cefndir ddatblygu eu crefft, eu sgiliau a’u hymarfer proffesiynol, tra’n ehangu eu rhwydweithiau o fewn y diwydiant yn ogystal.
Mae’r cynllun Cyfarwyddydd Cymraeg wedi’i greu i gynnig cyfle i gyfarwyddwyr sy’n siarad Cymraeg ennill profiad yn cyfarwyddo cynyrchiadau proffesiynol yn ein Stiwdio. Gyda chefnogaeth Theatr Genedlaethol Cymru, bydd y Cyfarwyddydd dan Hyfforddiant sy’n siarad Cymraeg yn cynorthwyo cyfarwyddwr ein Sioe Nadolig i blant rhwng 3 a 6 oed gyda’r bwriad o fynd ymlaen i gyfarwyddo’r sioe honno yn y dyfodol.
Rydyn ni’n awyddus i ychwanegu at amrywiaeth ein gweithlu, ac felly byddem yn croesawu’n benodol geisiadau gan gymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yn ein tîm ar hyn o bryd. Mae ein hadeilad yn hygyrch i gyrraedd Blaen y Tŷ a chefn llwyfan.
Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: hanner dydd, dydd Gwener, Mai 3 2024