Mae Citrus Arts yn chwilio am Gydlynydd Syrcas.

Rydym yn chwilio am diwtor/hwylusydd syrcas profiadol i ymuno â’n tîm bach a chyfeillgar fel Cydlynydd Syrcas. 

Bydd yr unigolyn yma yn datblygu ac yn cyflwyno ein dosbarthiadau mewnol a phrosiectau allgymorth. Mae'r rôl hon yn llawrydd ac o leiaf 10 awr yr wythnos, £20 yr awr gyda gwaith llawrydd ychwanegol ar gael. 

 

Mae’n gytundeb 12 mis sy’n cychwyn ar ddechrau mis Medi 2024, wedi’i leoli yn Neuadd Trehopcyn, Pontypridd, CF37 2RA.

 

Gweler Disgrifiad y Swydd a manylion pellach ar y ddolen isod.

Gwnewch gais trwy anfon llythyr eglurhaol heb fod yn fwy nag 1 ochr A4, neu ffilm sain neu fideo o ddim mwy na 3 munud. Mae croeso i chi wneud cais yn Gymraeg, Saesneg neu Iaith

Arwyddion Prydain.

E-bostiwch geisiadau i Kira drwy admin@citrusarts.co.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Gorffennaf y 5ed.

Cynhelir y cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau Gorffennaf y 15fed.

Os hoffech drafod y swydd neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â

beth@citrusarts.co.uk neu ffoniwch 07785 947823 (yn saesneg)

 

Dyddiad cau: 05/07/2024