Mae Byd Bach yn chwilio am Gydlynydd Gŵyl y Golau llawrydd i ddechrau gwaith ym mis Gorffennaf 2024 hyd nes i'r prosiect gau ym mis Rhagfyr 2024.

Bydd yr ymgeisydd gorau am y swydd hon â phrofiad helaeth o weithio mewn amgylchedd digwyddiadau ac arddangosfeydd, sy'n gysurus wrth raglennu gosodiad y darnau gwaith celf ar amser ac o fewn y gyllideb. Dylent fod yn drefnus, yn gyfathrebwyr da ac â phrofiad o ysgrifennu copi at bwrpasau marchnata a'r wasg. Bydd ganddyn nhw sgiliau rhyngweithio da a bod â diddordeb mewn datblygu a rheoli perthnasau gyda busnesau lleol, grwpia cymunedol ac artistiaid llawrydd annibynnol.   

Bydd yr ymgeisydd cywir yn gallu rheoli cyllid prosiect a gweithio'n annibynnol fel rhan o dîm prysur, ac adrodd yn ôl yn rheolaidd i'r Rheolwr Gweithredu yn Theatr Byd Bach.  

Am fwy o wybodaeth am y rôl a disgrifiad o'r swydd, cysylltwch ag amy@smallworld.org.uk

Swydd ddisgrifiad

Teitl y Swydd: Cydlynydd Gŵyl y Golau
Math o Gytundeb: Llawrydd, rhan amser, gweithio hyblyg
Hyd y Cytundeb: 6 mis
Rheolwr Llinell: Rheolwr Cyfathrebu 
Ffi: £7,000 gan gynnwys TAW.

Gwahoddir ymgeiswyr sydd â diddordeb i wneud cais drwy gyflwyno CV cyfredol a llythyr eglurhaol at amy@smallworld.org.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Iau 11/7/24.

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ddydd Mercher 17/7/24

a disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau'r wythnos sy'n dechrau ar 22/7/24 

 

++++

 

Ynglŷn â Gŵyl y Golau

Ym mis Rhagfyr 2024, byth Theatr Byd Bach yn lansio digwyddiad dros dair wythnos o'r enw Gŵyl y Golau yn Aberteifi, sy'n cael ei ariannu gan Cynnal y Cardi a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Bydd Gŵyl y golau'n arddangosfa awyr agored hygyrch, dilys o osodiadau golau sy'n dathlu bywyd cymunedol yng ngorllewin Cymru. 

Bydd yr ŵyl, sydd am ddim, ar agor i'r cyhoedd o 6 Rhagfyr hyd 29 Rhagfyr, 2024.  Bydd yr ŵyl yn goleuo'r dref gyfan ac yn hyrwyddo gweithgareddau tymhorol a drefnir gan Gastell  Aberteifi, Neuadd y Dref a Marchnad Aberteifi, busnesau ymwelwyr a masnachu eraill (caffis, bwytai, darparwyr llety ayyb), grwpiau cymunedol a mannau celfyddydol. 

Bydd yr ŵyl yn gweithio gyda darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus lleol i gyfrannu at wasanaeth bws yr ŵyl arbennig ar gyfer cymunedau o amgylch Aberteifi sydd wedi'u tan-wasanaethu ar hyn o bryd er mwyn sicrhau mynediad i'r ŵyl ar benwythnosau yn ystod Rhagfyr 2024.  

Dyddiad cau: 11/07/2024