Mae Ffotogallery yn chwilio am Gydgysylltydd Gŵyl Llawrydd rhan amser ar gyfer Ffoto Cymru 2024, a fydd yn cefnogi’r tîm, yr artistiaid sy’n cymryd rhan, partneriaid a rhanddeiliaid y sefydliad a darpariaeth gŵyl 2024.
Teitl y Swydd: Cydgysylltydd Gŵyl
Math o swydd: Llawrydd rhan amser
Dyddiad cychwyn: Mehefin 2024
Dyddiad gorffen: Tachwedd 2024
Cyflog: £7,500 yn gynwysedig, cynigir 2 ddiwrnod yr wythnos i’w talu mewn rhandaliadau misol drwy anfoneb.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 24 Mai, 5pm.
Lawrlwythwch y disgrifiad swydd isod am fanylion llawn a sut i wneud cais.
I wneud cais, anfonwch lythyr esbonio sy’n amlinellu eich profiad perthnasol a’ch CV gydag enw dau ganolwr i admin@ffotogallery.org. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 24 Mai 2024. Dim ond ymgeiswyr ar y rhestr fer fydd yn clywed gennym er mwyn trefnu cyfweliadau. Os hoffech drefnu sgwrs anffurfiol am y rôl gyda’r Cyfarwyddwr, anfonwch e-bost i admin@ffotogallery.org.