Mae Ysgol Bodafon yn ysgol gynradd a gynorthwyir yn wirfoddol gan yr Eglwys yng Nghymru sydd wedi’i leoli mewn ardal lled-wledig ar gyrion Llandudno yn sir Conwy. Ar ein taith dysgu rydym ni yn Ysgol Bodafon yn anelu at ysbrydoli i fod yn ddysgwyr hyderus, annibynnol sy’n ymdrechu i fod y fersiwn orau ohonyn nhw eu hunain.
Rydym yn chwilio am ymarferwr/ymarferwyr o unrhyw ddisgyblaeth i weithio’n greadigol gyda’r disgyblion i sicrhau profiadau dysgu ymarferol a dyfeisgar tu fewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth.
Hoffai Ysgol Bodafon ymchwilio i wella Rhifedd, Technoleg Gwybodaeth, Iechyd a Lles a Chymraeg disgyblion mewn ffordd creadigol ac hefyd edrych ar ffyrdd o ddatblygu eu hasesiad ac adborth. Y ffocws creadigol fyddai chwilfrydedd, disgyblaeth a dyfalbarhad.
Manylion
- Dyddiad cau i wneud cais – Dydd Llun 8fed o Orffennaf 8.y.b.
- Cyfweliadau a sesiwn blasu (gyda tal) efo’r disgyblion ar Ddydd Llun 15fed neu Dydd Mawrth 16eg o Orffennaf.
- Cyflwyno’r prosiect a gweithio gyda’r plant – o Fedi 2024, 1 neu 2 diwrnod yr wythnos ar ddydd Llun neu Ddydd Mawrth (gallai fod yn hanner diwrnod).
- Os na hyfforddwyd drwy’r LCS, cysylltwch a Martin, ein Hasiant Creadigol.
- Rhaid meddu ar Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus eich hun.
- Cyflog/Tâl - £300 y diwrnod a costau teithio.
I wneud cais
Ysgrifennwch/recordiwch neges ar gyfer y disgyblion gan fanylu ar syniadau ynglÿn â sut y byddech chi’n ymdrin â’r prosiect a pha fath o dasgau y gallech eu hannog I'w harchwilio ochr yn ochr â CV perthnasol, neu profiad perthnasol a’i anfon at yr holl gysylltiadau isod.
Os yw’r dulliau hyn o wneud cais yn hygyrch i chi neu os am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Martin ar 07930393358
Contacts/Cysylltiadau
Asiant Creadigol – Martin Hoyland – martylove66@hotmail.com
Cydlynydd Ysgol – Trystan Lloyd-Owen - pennaeth@bodafon.conwy.sch.uk
Athrawes Dosbarth – Siobhan Dunne - siobhan.dunne@bodafon.conwy.sch.uk
Gofynnon ni i'r disgyblion ddisgrifio’r person yr hoffen nhw weithio gyda nhw:
Caredig, clyfar, creadigol, diddorol, hyderus, talentog, profiadol ac angerddol.