Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn croesawu ceisiadau i gronfa sy’n cefnogi lleoliadau i gynnal a chadw neu uwchraddio ac adnewyddu eu hadeiladau a gofodau theatr gan gynnwys prynu offer. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau a fydd yn gwella hygyrchedd theatrau a lleoliadau neu’n cael effaith gadarnhaol ar leihau ôl troed carbon.

Mae’r cyllid hwn ar gyfer theatrau a lleoliadau perfformio a all:

  • Gynnal digwyddiad sydd â llefydd eistedd ar gyfer lleiafswm o 50 o bobl.
  • Ddangos hanes o gyflwyno gweithgaredd celfyddydau perfformio ar gyfer cynulleidfaoedd neu gyfranogwyr.
  • Gyflwyno rhaglen barhaus o ddigwyddiadau sy'n cynnwys o leiaf un digwyddiad proffesiynol y mis mewn man sydd â llefydd i eistedd.
  • Sicrhau bod yr adeilad neu brosiect yn bodloni gofynion hygyrchedd y Ddeddf Gydraddoldeb.

Gallwch ddarllen am ein blaenoriaethau ar gyfer y cynllun ariannu hwn yn y canllawiau, ond rhaid i unrhyw gais ddangos tystiolaeth o brosiect a fydd yn cael ei gwblhau o fewn y flwyddyn ariannol bresennol.

Y swm mwyaf y gallwch wneud cais amdano yw hyd at £250,000, ond rydym yn disgwyl i'r rhan fwyaf o brosiectau ofyn am hyd at £50,000.

Mae'n rhaid i chi gysylltu â ni gyda manylion eich prosiect er mwyn cael mynediad i ddolen i'r ffurflen gais. Darllenwch ein canllawiau i benderfynu os yw eich prosiect yn addas ar gyfer y cyllid hwn. Os ydyw, cysylltwch â cyfalaf@celf.cymru

Rhaid cwblhau prosiectau llwyddiannus o fewn y flwyddyn ariannol bresennol a bydd angen cyflwyno tystiolaeth o wariant i Gyngor Celfyddydau Cymru erbyn 5 Mawrth 2025.