Llawn amser, 37 awr yr wythnos

Cytundeb 12 mis (cyfnod mamolaeth)

Gradd D: Cyflog cychwynnol o £42,589

Lleoliad: Lleolir y swydd hon yn swyddfa’r Cyngor Celfyddydau Cymru ym Mae Colwyn. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.

Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, , cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).

Gweithredwn Bolisi Cyfle Cyfartal ar recriwtio a chroesawn geisiadau gan bob adran o’r gymuned yn y Gymraeg neu Saesneg. Ond, mae unigolion yn amrywiol yn ethnig ac yn ddiwylliannol, anabl, a thrawsryweddol wedi’u tangynrychioli yng ngweithlu’r Cyngor Celfyddydau ac o’r herwydd byddem yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn camu i mewn i’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.

Am Dysgu Creadigol

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru'n cydweithio ar brosiect pwysig i wella ansawdd dysgu creadigol yn ysgolion Cymru.  Pennwyd rhaglen uchelgeisiol o weithgarwch yn Dysgu Creadigol trwy'r Celfyddydau  – cynllun gweithredu i Gymru.

 

Pennodd y Cynllun strategaeth weithredu ar y cyd sydd wedi galluogi Cyngor y Celfyddydau a Llywodraeth Cymru i gydweithio i roi argymhellion adroddiad yr adolygiad o'r Celfyddydau mewn Addysg (Smith 2013) ar waith.  Mae'r cynllun wedi gweithredu'n effeithiol dros yr 8  mlynedd rhwng 2015 a 2023 ac mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i barhau i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru hyd at 2025.

Am Arweinwyr Prosiect

Mae yna 6 Arweinydd Prosiect (gan gynnwys y swydd wag hon) a rhyngddynt maent yn cwmpasu amrediad y dyletswyddau a ddisgrifir yn y disgrifiad swydd. Maent yn gynorthwyo Rheolwr y Rhaglen wrth ddatblygu polisi a strategaeth mewn perthynas â’r rhaglen Dysgu Creadigol trwy’r Celfyddydau, a’i chyflwyniad llwyddiannus. I gael disgrifiad llawn o ddyletswyddau a chyfrifoldebau, cyfeiriwch at y disgrifiad swydd.

Amdanoch chi

Bydd gennych chi angerdd dros y celfyddydau ac addysg a’r weledigaeth i reoli a gweithredu mentrau sy’n datblygu cynllun dysgu’r Celfyddydau a Chreadigol. Bydd angen i chi allu cyfathrebu’n dda a chydweithwyr â rhanddeiliaid a gweithio mewn perthynas â’r bydd Addysg, byd y Celfyddydau a/neu dysgu creadigol. Yn ddelfrydol, bydd gennych hefyd wybodaeth gadarn am dechnegau rheoli prosiect a dulliau sicrhau ansawdd.

Yr Iaith Gymraeg

Gweithiwn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ac mae rhuglder yn y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig) yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddatblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg.

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfle Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn fformat Word i AD@celf.cymru Os hoffech gyflwyno’ch cais mewn fformat gwahanol e.e. fideo neu nodyn llais, cysylltwch a ni o flaen llaw os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau: Hanner nos, Dydd Gwener 24 Mai 2024

Cyfweliadau: Dydd Mawrth, 11 Mehefin 2024

 

Dogfen23.04.2024

Ebrill 2024: Arweinydd Prosiect – Dysgu Creadigol trwy’r Celfyddydau