Heddiw (1 Chwefror 2022) mae Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn rhannu cynlluniau fydd yn helpu i sicrhau eu bod yn adlewyrchu bywydau pob unigolyn a phob cymuned. Datblygwyd y Cynllun Gweithredu Ehangu Ymgysylltiad wrth ymateb i dri adroddiad am ehangu ymgysylltiad a gomisiynwyd yn ystod haf 2020 ac a gyhoeddwyd ym mis Awst 2021.

Er mwyn rhoi'r newidiadau angenrheidiol ar waith yn y ddau sefydliad, o fewn y sector ac yng Nghymru, mae Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn credu y dylai pob unigolyn a chymuned gael cyfrannu at y drafodaeth ynghylch beth sy'n cyfri fel diwylliant, lle mae'n digwydd, pwy sy'n ei greu a phwy sy'n ei brofi.

Yn y cynlluniau a gyhoeddir heddiw, mae'r ddau sefydliad yn ymroi i'r canlynol:

  • Bydd cymunedau yn arwain ac yn cydgynhyrchu rhaglenni diwylliannol a bydd cyfleoedd i gael at nawdd ac adnoddau celfyddydol yn decach.
  • Mabwysiadu Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn drydedd iaith a gweithio tuag at sicrhau fod lleoliadau celfyddydol, amgueddfeydd ac adnoddau diwylliannol mor hygyrch â phosibl.
  • Sicrhau fod yr arweinyddiaeth yn y ddau sefydliad yn cynrychioli'r boblogaeth a datgan na fyddant yn goddef unrhyw fath o wahaniaethu.
  • Bwrw ymlaen â’n gwaith ar hyrwyddo’r Gymraeg a gwireddu amcanion Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb, o bob cymuned, ac mae aelodau'r cymunedau hynny yn defnyddio ac yn dathlu'r iaith bob dydd.

Mae'r ymrwymiadau yn ymateb i ymchwil gan Re:cognition yn canolbwyntio ar ardal led-wledig o dlodi; Richie Turner Associates, wnaeth greu tîm i ganolbwyntio ar bobl anabl a byddar; a Welsh Arts Anti-Racist Union (WAARU), a ganolbwyntiodd ar amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig. Cawsant eu comisiynu i helpu Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru ddeall yn well sut y gallant gyrraedd rhai o'r cymunedau y maent yn methu'n gyson â'u cynnwys yn eu gwaith.

Defnyddiwyd dull gwahanol gan yr ymgynghorwyr ar gyfer yr ymchwil, er mwyn clywed safbwyntiau rhanddeiliaid cymunedol yn glir ynghylch ymgysylltu â rhaglenni diwylliannol yng Nghymru. Gweithiodd pob un o'r ymgynghorwyr gyda chymunedau, yn hytrach nag alldynnu safbwyntiau ganddynt, er mwyn gosod y sylfaen ar gyfer newid go iawn.

"Mae'r ymchwil newydd hwn yn cyfeirio at rai newidiadau sylfaenol sy'n gorfod digwydd er mwyn sicrhau ein bod wir yn cynrychioli ein cymunedau." meddai Roger Lewis, Llywydd Amgueddfa Cymru.

"Y cynlluniau a rannwyd heddiw yw'r cam cyntaf tuag at sicrhau y bydd y newidiadau hynny yn digwydd er mwyn i'r cymunedau sy'n teimlo nad yw sefydliadau a chyrff diwylliannol Cymru yn perthyn iddyn nhw ddechrau gweld a phrofi newidiadau positif."

Ychwanegodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu'n ehangach â chymunedau ar draws Cymru, a noddi gweithgarwch diwylliannol sy'n adlewyrchu bywydau, pryderon a chreadigrwydd pobl y cymunedau hyn. Mae'r cynlluniau gweithredu hyn yn ymateb i waith ymchwil heriol oedd yn canolbwyntio ar dair cymuned benodol a phwysig, ac maent yn gamau cyntaf pwysig er mwyn ehangu ymgysylltiad.

"Mae diwylliant ym mhob man, ond nid yw'r nawdd a chysylltiad â'n sefydliadau diwylliannol wedi'u dosbarthu'n gyfartal. Rhaid i ni symud tuag at well cydraddoldeb cyfleoedd. Bydd ein bywydau ni oll yng Nghymru yn well o'r herwydd."

Mae'r ddau sefydliad eisoes yn symud y gwaith hwn ymlaen, gan fynd i'r afael â'r rhwystrau mae unigolion a chymunedau wedi dweud wrthynt sy'n eu hwynebu. Ar hyn o bryd, mae project Camau Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi 7 sefydliad trwy raglen datblygu busnes. Mae’r sefydliadau dan arweiniad pobl F/fyddar neu bobl anabl, neu dan arweiniad ymarferwyr o gefndiroedd amrywiol eu diwylliant a'u hethnigrwydd. 

Mae Amgueddfa Cymru yn cydnabod fod diffyg cyfleoedd i’r bobl ifanc sy’n wynebu’r anfantais fwyaf ac yn cydweithio gyda Barnardo’s, Plant yng Nghymru, Jukebox Collective, Llamau, Promo Cymru a Phanel Cynghori Is-Sahara i ddatblygu cyfleoedd a rhaglenni ar gyfer pobl ifanc, gan gynnwys cyfleoedd â thâl i dros 80 o bobl ifanc annibynnol rhwng 18 a 25 oed o gefndiroedd amrywiol yn rhan o broject Dwylo ar Dreftadaeth a noddir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.