Heddiw cyhoeddwyd partneriaeth newydd rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Chyngor Celfyddydau Cymru a fydd yn arwain at benodi Cydlynydd Dysgu Cymraeg gan y Cyngor.

Mae’r hysbyseb ar gyfer y swydd hon bellach yn fyw ar wefan y Cyngor, a’r gobaith yw penodi i’r swydd yn fuan. Mae’r bartneriaeth newydd hon yn adeiladu ac yn datblygu’r bartneriaeth lwyddiannus a fu rhwng y ddau sefydliad yn 2020-21. Bryd hynny cynhaliwyd tri chynllun peilot er mwyn tafoli’r galw o fewn y sector yn y lle cyntaf. Yna, mewn partneriaeth gyda’r Theatr Genedlaethol, cynhaliwyd dau gwrs Dysgu Cymraeg ar gyfer gweithwyr llaw-rydd yn y sector gelfyddydol.

Gan siarad heddiw, dywedodd Ysgogydd y Gymraeg Cyngor Celfyddydau Cymru, Einir Siôn:

“Rydym yn hynod falch heddiw o fedru cyhoeddi’r bartneriaeth newydd hon rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Bydd hyn yn arwain at fedru cyllido’r swydd hon gyda nawdd ychwanegol o’r Ganolfan trwy ei chynllun i gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle, ‘Cymraeg Gwaith’. Ei bwriad yw creu, cynnal a chydlynu gwasanaeth newydd Dysgu Cymraeg ar gyfer y sector gelfyddydol – rhywbeth y mae ein cynlluniau peilot wedi dangos y mae cryn alw amdano.

“Bydd y cydlynydd yn darparu cyfleoedd i staff y cyngor, artistiaid unigol, mudiadau a chanolfannau celfyddydol ddatblygu a thyfu eu sgiliau a hyder yn y Gymraeg trwy ddarparu cyrsiau Dysgu Cymraeg perthnasol, cydlynu cyfleoedd i fagu hyder yn eu Cymraeg a chreu adnoddau Dysgu Cymraeg perthnasol i’r maes celfyddydol.

“Bydd y cydlynydd yn ymateb i argymhellion ymchwil ‘Llwybrau datblygu’r Gymraeg o fewn y celfyddydau’ – sef gwaith ymchwil sydd ar y gweill ar hyn o bryd gan y Cyngor, sy’n cael ei gynnal gan Gwmni Arad -  gan ganolbwyntio ar anghenion artistiaid, mudiadau a chanolfannau celfyddydol wrth ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.”

Yn ogystal, dywedodd Dona Lewis. Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n arwain cynllun ‘Cymraeg Gwaith’:

“Mae creu cyfleoedd i bobl ddysgu a mwynhau’r Gymraeg yn eu gweithleoedd yn un o flaenoriaethau’r Ganolfan Genedlaethol, a thrwy weithio’n hyblyg a theilwra rhaglenni dysgu perthnasol, dan ni wedi croesawu miloedd o ddysgwyr newydd o wahanol sectorau a sefydliadau.

“Mae’r cydweithio agos gyda’r Cyngor Celfyddydau wedi arwain at y datblygiad cadarnhaol diweddaraf hwn, sef penodi cydlynydd i sicrhau ein bod ni’n gallu ateb y galw cynyddol am gyrsiau Dysgu Cymraeg ym myd y celfyddydau.

“Mae’r datblygiad yn rhywbeth i’w ddathlu, ac edrychwn ymlaen at barhau â’r cydweithio agos gyda’r Cyngor.”

Mae manylion y swydd hon, a phecyn ymgeisio, i’w gweld yma - https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/cydlynydd-dysgu-cymraeg

DIWEDD                                                                     10 Mehefin 2022.

I weld manylion y gwaith blaenorol y cyfeirir ato yn y datganiad gweler: