Sut mae’n gweithio? 

Mae Noson Allan yn helpu gwirfoddolwyr lleol i drefnu perfformiadau proffesiynol mewn canolfannau cymunedol. Yn aml, y prif rwystr i’r math yma o weithgarwch yw’r risg ariannol.

people infographic icon
500+
sioe y flwyddyn

I bwy mae’r cynllun?

Mae’r cynllun wedi’i fwriadu ar gyfer canolfannau cymunedol, neuaddau pentref neu sefydliadau cymunedol tebyg yng Nghymru. Trwy ddarparu sicrwydd ariannol mae Noson Allan wedi cynorthwy dros 350 o grwpiau yng Nghymru bob blwyddyn, i lwyfannu dros 500 o sioeau.

Mae astudiaethau achos o rai o lwyddiannau Noson Allan i’w gweld isod, neu ewch draw i wefan Noson Allan i weld sut gallai eich cymuned chi gymryd rhan.