Dyma rhai syniadau ymarferol ar sut i gynnwys mwy o elfennau Cymraeg a dwyieithog yn eich digwyddiad.  
 

Newidiadau bach syml 

Cyfarch gwesteion: Wrth i fynychwyr gyrraedd eich digwyddiad,defnyddiwch ‘Bore da / Prynhawn da’. Peidiwch â phoeni os na allwch barhau â’r sgwrs yn Gymraeg. Eglurwch nad ydych yn siarad yr iaith ond eich bod yn gefnogol i’r Gymraeg fel cwmni / artist.  

Gwnewch hi’n hawdd i bobl wybod pwy sy’n siarad Cymraeg: Archebwch fathodyn Iaith Gwaith i staff a gwirfoddolwyr eu gwisgo, drwy ebostio: post@cyg-wlc.cymru. Mae’r bathodyn syml hwn yn dangos pwy sy’n gallu cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ei gwneud hi’n hawdd i bobl ddefnyddio'r iaith gyda chi os dymunant.  

Rhowch staff a gwirfoddolwyr eich digwyddiad sy’n medru’r Gymraeg mewn mannau amlwg: Fel y fynedfa neu wrth y ddesg groeso. Mae syniadau am recriwtio gwirfoddolwyr dwyieithog i'w canfod isod. 

Rhoi'r neges bod croeso i'r Gymraeg yn eich digwyddiad: Beth am wneud yn siŵr fod y Gymraeg yn cael ei defnyddio yn ystod eich digwyddiad. Os nad yw pob siaradwr yn gwneud cyflwyniad dwyieithog beth am anelu at ofyn i bawb roi cyfarchiad syml yn Gymraeg ar y dechrau?  

Byddwch yn ddewr wrth ddefnyddio’r Gymraeg. Mae yna ffyrdd arloesol a diddorol o ddefnyddio’r iaith ar lwyfan. Ceisiwch beidio â dewis yr opsiwn 'hawsaf’ pob tro.

George Soave, Cynhyrchydd Gweithredol, The Other Room Theatre

Newidiadau tymor canol

Deunyddiau gweledol: Gwnewch yn siŵr fod y Gymraeg yn cael ei defnyddio ar ddeunyddiau fel arwyddion a baneri. Bydd angen cofio cynnwys y Gymraeg wrth gynllunio’r gwaith dylunio.  

Mae cymorth ymarferol ar gael i'ch helpu wrth ddrafftio negeseuon yn Gymraeg hefyd: Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cynnig gwasanaeth prawf ddarllen ymarferol am ddim. E-bostiwch eich drafftiau at hybu@cyg-wlc.cymru a bydd y gwaith yn cael ei wirio a’i anfon yn ôl atoch.

Deunyddiau eraill: Gwnewch yn siŵr fod y rhaglen, y rhestr siaradwyr, a’r pecynnau gwybodaeth ar gael yn y ddwy iaith. Os byddwch yn dangos cyflwyniadau, beth am ddangos y wybodaeth yn y ddwy iaith? Mewn arddangosfa, defnyddiwch labeli dwyieithog a chyfieithwch unrhyw ddeunyddiau dehongli achatalogau. Mae dod o hyd i gyfieithydd yn hawdd.

Hyrwyddo’r digwyddiad: ewch ati i hyrwyddo eich digwyddiad ar y rhwydweithiau cymdeithasol yn y Gymraeg a’r Saesneg – am fwy o syniadau, ewch i’n tudalennau Cymorth Digidol.

Cofnodi dewis iaith mynychwyr: Gofynnwch i fynychwyr nodi eu dewis iaith o flaen llaw a rhowch wybod iddynt y byddwch yn croesawu trafodaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg. 

Cynnwys siaradwyr Cymraeg wrth ddewis a gwahodd siaradwyr gwadd: Gwahoddwch gyfranwyr sy’n gallu siarad Cymraeg gan annog cyfraniadau yn yr iaith ganddynt. 

Trefnu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd: Mae modd cael gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn rhwydd iawn ar gyfer gweithdai a chynadleddau drwy gysylltu â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Cofiwch y dylech friffio’r cyfieithydd ar unrhyw derminoleg arbenigol a chynnwys y gynhadledd o flaen llaw.

Recriwtio stiwardiaid a gwirfoddolwyr dwyieithog: Ar gyfer digwyddiadau mwy, beth am geisio recriwtio stiwardiaid a gwirfoddolwyr dwyieithog. Beth am gysylltu â’ch Menter Iaith lleol i’ch helpu i ddod o hyd i wirfoddolwyr?  

Datganiadau i’r wasg: Os ydych am ddenu sylw at eich digwyddiad, mae'n bwysig iawn gwneud yn siŵr eich bod yn cysylltu gyda'r  wasg Gymreig. Yn aml, mae'r cysylltiadau yma yn wahanol i'r rhai y byddwch yn defnyddio wrth hyrwyddo drwy gyfrwng y Saesneg. Dyma dudalen am brif sefydliadau'r wasg Gymreig.

Hyd yn oed os nad ydy digwyddiad yn un sy'n cael ei chynnal yn swyddogol ddwyieithog, mae siaradwyr Cymraeg yn cael eu hannog i gyfrannu'n Gymraeg os mai dyna yw eu dymuniad.

Siân Prydderch Fitzgerald, Swyddog Celfyddydau Cymunedol, Cyngor Sir Ddinbych