Mae gweld a chlywed eich sefydliad yn defnyddio’r Gymraeg yn ffordd wych o ddangos i’r cyhoedd a’ch cleientiaid fod modd iddynt ddefnyddio rhywfaint o’r iaith gyda chi.   

Wrth gwrs, mae’r adnoddau sydd ar gael i ddelio â phobl drwy gyfrwng y Gymraeg yn mynd i amrywio – ond gall bawb wneud rhywbeth – ac mae’n hawdd iawn gwella os nad ydych yn cynnig llawer o wasanaeth ar hyn o bryd. 

Yn ôl ymchwil gan y Cyngor ar Bopeth, roedd 94% o’r siaradwyr Cymraeg rhugl a gafodd eu cyfweld yn teimlo bod derbyn gwasanaeth Cymraeg da yn helpu cwmni i greu argraff. Roedd 90% o’r rhai a gafodd eu cyfweld yn teimlo bod gallu delio â chwmni drwy gyfrwng y Gymraeg yn golygu eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel cwsmeriaid. 

Dyma nifer o syniadau ar sut i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith – dim ots beth yw eich gallu ieithyddol. 

 

Newidiadau bach syml 
 

  • Defnyddiwch ‘Bore da / Prynhawn da’. Peidiwch â phoeni os na allwch barhau â’r sgwrs yn y Gymraeg. Eglurwch nad ydych yn siarad yr iaith ond eich bod yn gefnogol i’r Gymraeg.  
  • Gwnewch hi’n hawdd i bobl adnabod siaradwyr Cymraeg. Archebwch fathodyn Iaith Gwaith. Mae’r bathodyn syml hwn yn dangos pwy sy’n gallu cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ei gwneud hi’n hawdd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg gyda'ch staff. Archebwch eich bathodynnau drwy ebostio post@cyg-wlc.cymru.
  • Beth am greu e-lofnod ddwyieithog ar gyfer eich sefydliad? Mae’n hawdd iawn rhoi teitl eich swydd yn y ddwy iaith a gallech arwyddo drwy ddefnyddio ‘Cofion gorau / Best wishes’, neu’n fwy ffurfiol ‘Yn gywir / Yours sincerely’. 
     

Newidiadau tymor canol 

 

  • Beth am ddysgu ychydig o Gymraeg neu annog eich staff i wneud? Efallai eich bod yn gwbl newydd i’r iaith neu am gryfhau’r sgiliau sydd gennych yn barod -Mae cyrsiau gwych ar gael ar gyfer pob lefel gallu. 

Mae llawer ohonom ni yn y cwmni bellach yn dysgu Cymraeg. Mae'r rhan fwyaf o'n staff yn defnyddio apiau fel Duolingo ac mae'n eithaf cystadleuol rhyngom ni! Rydym hefyd yn cael hyfforddiant Cymraeg rheolaidd a chefnogaeth un i un.  

Kathryn Williams, Cyfarwyddwr Rubicon Dance

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy'n gyfrifol am y sector dysgu Cymraeg. Mae'r Ganolfan yn cefnogi ac yn annog pawb sydd am ddysgu'r iaith. Mae pob math o opsiynau gwahanol ar gael i gyflogwyr a’u gweithluoedd sydd am ddysgu Cymraeg. 

Dros amser, fyddech chi’n gallu datblygu elfen o’ch gwaith i fod yn ddwyieithog? Dyma’n union beth wnaeth Rubicon Dance: 

Mae fy nghydweithiwr, Anwen, nawr yn ddigon hyderus yn ei gallu i siarad Cymraeg fel ei bod hi'n arwain sesiynau dawns teulu yn ddwyieithog.

Kathryn Williams, Cyfarwyddwr Rubicon Dance
  • Ewch ati i gadw cofnod o’ch cleientiaid sydd am gael gwasanaeth Cymraeg. Beth am ddatblygu’r ffordd rydych chi’n cysylltu â’ch cleientiaid i wneud yn siŵr fod y rheini sy’n dymuno cael gwybodaeth yn Gymraeg yn ei dderbyn yn eu dewis iaith.  

 

Newidiadau hir dymor 

 

  • Recriwtio staff neu wirfoddolwyr sydd â sgiliau iaith Gymraeg: y tro nesaf y byddwch yn recriwtio beth am gynnwys yr iaith Gymraeg fel sgil hanfodol neu ddymunol? Os ydych mynd allan i dendr – beth am ofyn i gontractwyr sicrhau darpariaeth yn y Gymraeg? 

Yn ddiweddar, rydym wedi llunio cytundeb gyda Menter Iaith Sir Caerffili er mwyn gallu rhannu gwasanaethau eu Swyddog Digidol sydd yn siaradwr Cymraeg rhugl. Mae hyn wedi gwella ein gallu i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg.

Kate Strudwick, Cyfarwyddwr Celf ar y Blaen, Abertyleri