Mae’n golygu y gallwch chi gael benthyciad 12 mis, di-log, i brynu celf gyfoes.  Mae taenu’r gost yn ei gwneud yn bosib i ragor o bobl allu fforddio bod yn berchen ar waith celf neu grefft.

Mae rhagor na 50 o orielau Cymru yn rhan o’r Cynllun Celf, felly mae’n cefnogi’r economi leol drwy ganiatáu i artistiaid wneud bywoliaeth yn eu cymunedau eu hunain. Mae’r cynllun hefyd yn rhoi hwb i orielau a chanolfannau crefft drwy eu helpu i werthu mwy. 

Cewch wybod mwy am y cynllun, yn ogystal â chwestiynau cyffredin, draw ar wefan Cynllun Casglu

project infographic icon
50+
Welsh galleries
spending infographic icon
10%
deposit upfront