Ein gwaith gyda’r Portffolio Celfyddydol yw un o’r prif ffyrdd rydyn ni’n helpu i fuddsoddi mewn sector celfyddydol deinamig a chreadigol, a chefnogi’r sector hwnnw. Aelodau’r Portffolio yw ein partneriaid allweddol sy’n helpu i gyflawni’r blaenoriaethau strategol sydd wedi’u nodi yn ein Cynllun Corfforaethol.

Mae 67 o sefydliadau yn aelodau o Bortffolio Celfyddydol Cymru ar hyn o bryd.

Os ydych yn aelod o Bortffolio Celfyddydol Cymru neu os hoffech gael gwybod rhagor, cliciwch yma i weld adnoddau defnyddiol a’r newyddion diweddaraf (gan gynnwys am ein Hadolygiad Buddsoddi).

Pwy ydyn nhw?

Mae’r Portffolio yn cynnwys sefydliadau celfyddydol, mawr a bach, lleol a chenedlaethol, sydd wedi’u lleoli ledled Cymru ac sy’n gweithio drwy’r Gymraeg a’r Saesneg. Isod fe welwch chi astudiaethau achos ar y prosiectau cyffrous mae aelodau Portffolio Celfyddydol Cymru yn eu cynnal bob blwyddyn.

people infographic icon
67
o aelodau