Dyma gyfle gwych i chi sicrhau fod eich prosiect ar gael i bawb yn eich cymuned. 

Cofiwch, wrth dderbyn y grant, rydych yn ymrwymo i: 
 

  • gyflwyno rhai elfennau o'r gwaith yn ddwyieithog, yn unol â safonau iaith Cyngor y Celfyddydau  

  • wirio eich bod yn gweithredu yn unol ag unrhyw oblygiadau pellach sydd gan eich sefydliad chi dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. I wirio os yw eich sefydliad chi yn cael ei enwi yn y Mesur fel un sy’n rhaid cydymffurfio â’r safonau, ebostiwch post@cyg-wlc.cymru.

  • gydnabod y ffaith fod gan yr iaith Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru

  • ddarparu dehongliadau addas yn y Gymraeg a’r Saesneg o’ch digwyddiadau yn unol ag anghenion ehangach y gymdeithas a’ch cynulleidfa darged

  • farchnata gwybodaeth sylfaenol am eich gweithgareddau yn y ddwy iaith a chyda’r un amlygrwydd 

Cymorth ymarferol i'ch helpu i weithredu'n ddwyieithog