Mae cwblhau’r holiadur yn ffordd wych o asesu defnydd eich sefydliad chi o’r Gymraeg ar hyn o bryd. Mae hefyd yn le da i chi gychwyn meddwl beth gall cwsmeriaid ei ddisgwyl gennych chi drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â meddwl am yr hyn rydych yn gallu ei gynnig i’ch staff a/neu wirfoddolwyr yn Gymraeg.

Llenwch yr Holiadur Hunan Asesiad cyflym a syml yma i weld yn syth:
 

  • I weld beth yw’r elfennau gorau am eich gwasanaethau Cymraeg ar hyn o bryd 
  • I weld ble y gallwch chi geisio gwella eich darpariaeth os o gwbl
  • I dderbyn cymorth perthnasol ar sut i wella eich darpariaeth 

     


Gall llenwi’r Holiadur fod y cam cyntaf yn y broses o ymuno â’r cynllun Cynnig Cymraeg. 


Beth yw’r Cynnig Cymraeg?

  • Y Cynnig Cymraeg yw’r marc safon newydd sbon gan Gomisiynydd y Gymraeg (dolen) sy’n dangos bod cwmniau ac elusennau yn falch ac yn barod i ddarparu rhai gwasanaethau yn Gymraeg. 
  • Mae’r Cynnig Cymraeg yn ei gwneud hi’n hawdd i aelodau’r cyhoedd weld beth sy’n cael ei gynnig drwy’r Gymraeg gan eich sefydliad chi.
  • O fod yn rhan o’r Cynnig Cymraeg, fe gewch chi fel sefydliad ddefnyddio brand a logo y Cynnig Cymraeg. 

Os oes gennych eisoes Bolisi Iaith Gymraeg, cysylltwch â Thîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg ac fe gewch gyngor ar sut i’w ddiweddaru a’i wneud yn berthnasol i’r Cynnig Cymraeg: hybu@welshlanguagecommissioner.wales

Nid yw’r Cynnig Cymraeg ar gael i sefydliadau sy’n gweithredu yn uniongyrchol o dan Safonau’r Gymraeg.