Rydym wedi treulio amser yn siarad â phobl fyddar ledled Cymru, wyneb yn wyneb a thrwy holiaduron, yn ogystal â dysgu oddi wrth ein profiad a rennir. Rydym wedi ychwanegu hyn at adborth oddi wrth sefydliadau allweddol, er mwyn darparu pecyn cymorth sy’n hawdd ei ddefnyddio. Rydym wedi ceisio darparu canllawiau mor gynhwysfawr â phosibl, gan gadw mewn cof bod pob un ohonoch yn wynebu’ch heriau’ch hun o ran arian, amser a grym pobl. Deallwn mai gwaith sy’n mynd rhagddo yw hwn, a gwerthfawrogwn fod unrhyw ymdrech i fynd i’r afael â hygyrchedd yn gam yn y cyfeiriad cywir. Y peth pwysicaf i’w ystyried yw dechrau deialog gyda’ch cynulleidfa fyddar bresennol a phosibl. Bydd y pecyn cymorth hwn yn eich helpu i wneud hynny.

Mae celfyddydau a diwylliant ar gyfer pawb. Ond os oes gennych nam neu ofyniad mynediad penodol, nid yw bob amser yn hawdd cael profiad ohono.

Mae Hynt yn fenter Cyngor Celfyddydau Cymru a reolir gan Greu Cymru mewn partneriaeth â Diverse Cymru.

Cynllun mynediad cenedlaethol yw Hynt, sy'n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru i sicrhau bod cynnig cyson ar gael i ymwelwyr â nam neu ofynion mynediad penodol ac i’w Gofalwyr a’u Cynorthwywyr Personol.