Mae'r ystadegau a gynhyrchwn wedi eu cynnwys o fewn cwmpas Awdurdod Ystadegau'r DU  (UKSA) a gwnawn pob ymdrech i gydymffurfio â'r Cod Gweithredu ar gyfer Ystadegau Swyddogol (2018).

Beth yw'r cefndir?

Gosodwyd Gorchymyn Deddfwriaethol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Chwefror  2013, yn unol ag Adran 65(7) y Ddeddf Cofrestru Gwasanaethau 2007, er mwyn dynodi ystadegau a gynhyrchir gan Gyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, yn Ystadegau Swyddogol.

Pam dynodi ein arolygon yn Ystadegau Swyddogol?

Mae'r Cod Gweithredu ar gyfer Ystadegau Swyddogol yn amlinellu nifer o egwyddorion a chanllawiau sydd â'r nod o sicrhau bod ystadegau yn

  • bodloni anghenion defnyddwyr
  • yn cael eu cynhyrchu, eu rheoli a'u dosbarthu yn unol â safonau uchel
  • wedi eu hesbonio yn dda

Trwy gydymffurfio â'r cod, gall defnyddwyr yr ystadegau a gynhyrchir fod yn hyderus bod modd ymddiried yn y wybodaeth a gynhyrchir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Sut mae modd ymddiried yn ein ystadegau?

Mae'r wybodaeth a gynhyrchwn â'r nod o fod yn wrthrychol, di-duedd, gonest ac unplyg fel bod modd ymddiried yn ein ystadegau.

  • Unplygrwydd  – byddwn yn rhoi budd y cyhoedd yn uwch na budd sefydliadol, gwleidyddol neu bersonol
  • Gonestrwydd – byddwn yn dweud y gwir yn ein hystadegau ac yn agored yn eu cylch ac yn y ffordd y byddwn yn ei dehongli
  • Gwrthrychol – byddwn yn defnyddio dulliau gwyddonol i gasglu ystadegau ac yn seilio cyngor ystadegol ar ddadansoddiad trwyadl o'r dystiolaeth.
  • Amhleidiol – byddwn yn gweithredu yn llwyr ar sail rhinwedd y dystiolaeth ystadegol, gan wasanaethu pob elfen o fudd y cyhoedd llawn cystal a'i gilydd.

Pa rai o'r allbynau data sy'n cael eu categoreiddio fel Ystadegau Swyddogol?

Gan ddefnyddio canllawiau'r UKSA rydym wedi dynodi'r allbynau data o'r Arolygon canlynol, a gynhelir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, fel ystadegau swyddogol:

  • Arolwg Sefydliadau sy'n derbyn cyllid refeniw
  • Arolwg Omnibws Cymru
  • Arolwg Omnibws Plant
  • Arolwg y Celfyddydau yng Nghymru

Yn 2016/17, ymgorfforwyd Arolwg y Celfyddydau yng Nghymru i mewn i Arolwg Cenedlaethol Cymru, a gynhelir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r datblygiad hwn yn golygu bod modd defnyddio sampl mwy o faint, a chymharu nifer ehangach o amrywiaethau, yn cwmpasu pynciau megis iechyd, chwaraeon a thai.

Beth a wnawn os fydd y cod yn cael ei dorri?

Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymchwilio i'r amgylchiadau a arweiniodd ar dorri'r cod ac yn adrodd i Awdurdod Ystadegau'r DU.

Byddwn yn hysbysu'r Ystadegydd Cenedlaethol ynghylch unrhyw gwynion a ddaw i law yn ymwneud ag integriti proffesiynol, neu safon ein cyhoeddiadau ystadegol. A byddwn yn adrodd wrth yr Ystadegydd Cenedlaethol os fydd unrhyw ddata yn cael ei ryddhau yn ddamweiniol neu mewn ffordd anghywir.

Prif gyswllt Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer Ystadegau Swyddogol yw Chris Batsford, y Rheolwr Ymchwil. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynteu sylwadau ynghylch ein hystadegau, yna cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Ymchwil a gwerthuso14.08.2019

Ystadegau Swyddogol: amserlen gyhoeddi 2018/19 – 2019/20