Darparwn ystod eang o brofiadau a phrosiectau fel rhan o’r cynllun dysgu creadigol. Mae’r rhain wedi’u cynllunio i sicrhau hygyrchedd i ddisgyblion o bob cefndir, ac i osod creadigrwydd yn ganolbwynt i’r cwricwlwm.

project infographic icon
1,240
o ysgolion

Ysgolion Creadigol Arweiniol

Mae dros chwe chant o ysgolion wedi cymryd rhan yn y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol. Rydym ni’n gweithio ag ysgolion unigol er mwyn darparu rhaglen ddysgu sy’n ymateb i’w hangenhion. Mae gan Ysgolion Creadigol Arweiniol fynediad at arbenigwyr creadigol, eu sgiliau a’u hadnoddau er mwyn gwella dysgu ac addysgu.

Mae pob prosiect wedi'i gynllunio i helpu i fynd i'r afael â heriau penodol a nodwyd yng nghynllun datblygu'r ysgol. Yn ogystal, ei nod yw meithrin creadigrwydd dysgwyr, codi cyrhaeddiad sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a chefnogi newid ysgol gyfan i baratoi ar gyfer Cwricwlwm Cymru 2022.

 

people infographic icon
134,000+
cyfleoedd i ddisgyblion

Cynnig y Celfyddydau ac Addysg dros Gymru Gyfan

Mae Cynnig y Celfyddydau ac Addysg dros Gymru Gyfan yn galluogi ysgolion i weithio ag artistiaid a sefydliadau celfyddydol, gan hefyd greu cyfleoedd i gyfoethogi addysgu ar draws y cwricwlwm. Mae’r cynnig wedi’i rhannu yn ddwy ffrwd:

Rhwydwaith Rhanbarthol Celfyddydau ac Addysg

Mae’r Rhwydwaith Rhanbarthol Celfyddydau ac Addysg yn darparu gofod i ysgolion a sefydliadau celfyddydol rannu ymarfer da a chanfod partneriaethau. Darperir hyfforddiant drwy’r rhwydwaith er mwyn galluogi artistiaid i gynllunio’u gwaith gydag anghenion ysgolion mewn golwg.

Cronfa Profi’r Celfyddydau

Mae Cronfa Profi’r Celfyddydau yn ei gwneud hi’n hygyrch i blant a phobl ifanc gael mynediad at arlwy o brofiadau celfyddydol. Drwy’r gronfa Ewch i Weld, mae gan ddisgyblion gyfle i brofi digwyddiadau celfyddydol o safon uchel ledled Cymru. Mae’n bosib i ysgolion a sefydliadau celfyddydol gymryd rhan hefyd yn y gronfa Cydweithio Creadigol, sy’n cefnogi prosiectau celfyddydol uchelgeisiol a blaengar.

 

Gyda'i dulliau arloesol, mae'r rhaglen wedi denu cydnabyddiaeth ar lefel ryngwladol, gyda 1,240 ysgol yn cymryd rhan yn y rhaglen. Dyna 83% o ysgolion Cymru.

Cynigiwyd dros 134,000 cyfle i ddisgyblion gymryd rhan a thua 4,600 cyfle i athrawon wella eu dysgu proffesiynol. Mae'r ffigyrau yn dangos pwysigrwydd y rhaglen.

Mae’r prosiectau hyn wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

 

Cliciwch yma i weld ein Hadroddiad Blynyddol diweddaraf.

Ewch yma i gofrestru ar gyfer y cylchlythyr Dysgu Creadigol drwy'r celfyddydau.