Cefndir

Cynlluniwyd Rhowch Gynnig Arni i roi cyfleoedd i ddysgwyr 3 – 16 oed roi cynnig ar weithgaredd neu weithdy untro i gefnogi ysgolion i gyflwyno Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol. Mae'r gronfa'n ymdrin â phum disgyblaeth celf; dawns; drama; cerddoriaeth; ffilm a’r cyfryngau digidol.

Gall sefydliad celfyddydol neu ymarferydd creadigol ddarparu'r gweithgarwch a gall ddigwydd un ai yn yr ysgol neu mewn lleoliad addas yng Nghymru. Gall y gweithgarwch fod yn ystod oriau ysgol neu fel gweithgaredd allgyrsiol. Gall y gweithgarwch fod yn un sesiwn neu gael ei gynnal ar draws sawl diwrnod.
Mae’r gronfa’n cynnig grantiau o hyd at £1,500 a gall ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth, unedau cyfeirio disgyblion a/neu sefydliadau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru wneud ceisiadau.

Mae Rhowch Gynnig Arni yn cefnogi'r Rhaglen ar gyfer Llywodraeth 2021-26 a'r Cynllun Cendlaethol ar gyfer Addysg Gerdd.

Pwy all ymgeisio?

Mae Rhowch Gynnig Arni ar gael i ariannu:

  • pob ysgol a gynhelir gan y wladwriaeth yng Nghymru ar gyfer disgyblion rhwng 3 a 16 oed
  • unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru i’r rhai 3 - 16 oed

Ni allwn gefnogi addysg ôl-16 sy’n cynnwys Colegau Addysg Bellach a’r Chweched Dosbarth.

Gellir cyflwyno ceisiadau Rhowch Gynnig Arni drwy:

  • Ysgol a gynhelir gan y wladwriaeth
  • Uned cyfeirio disgyblion
  • Sefydliad celfyddydol / diwylliannol sydd yng Nghymru

Beth yw'r dyddiad cau?

Nid oes dyddiad cau ar gyfer Rhowch Gynnig Arni. Mae hyn yn golygu y gallwch wneud cais am arian ar unrhyw adeg. Gan amlaf, byddwch yn clywed mewn 4 wythnos waith a oedd eich cais yn llwyddiannus ai peidio. Rydym yn argymell ichi gyflwyno eich cais o leiaf 5 wythnos waith cyn eich dyddiad cychwyn i ganiatáu amser i ni brosesu eich grant. Gallwn wrthod ceisiadau sy’n ein cyrraedd llai na 5 wythnos waith cyn y gweithgarwch arfaethedig.

Am fanylion pellach

Rydym yn argymell darllen y canllawiau llawn cyn cyflwyno'ch cais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, croeso i chi gysylltu â ni.
E-bostiwch ni: dysgu.creadigol@celf.cymru

Cymorth
Nodiadau cymorth gyda chyllid06.11.2023

Rhowch Gynnig Arni: Canllawiau

Nodiadau cymorth gyda chyllid06.11.2023

Rhowch Gynnig Arni: Cwestiynau