Gan adeiladu ar lwyddiant y llynedd, cyhoeddir Mudiad Meithrin fel partner newydd y fenter Dysgu Creadigol yn y Blynyddoedd Cynnar, gan greu mwy o gyfleoedd i leoliadau Cymraeg ledled Cymru.

Mae Dysgu Creadigol yn y Blynyddoedd Cynnar yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru, Mudiad Meithrin a Llywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Sefydliad Paul Hamlyn.

Bydd y fenter yn dod ag Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar ac Gweithwyr Creadigol Proffesiynol ynghyd i greu amgylcheddau a phrofiadau sy'n gyforiog o iaith, chwarae, datblygiad corfforol, ymgysylltu â'r awyr agored, celfyddydau, creadigrwydd, ac ymdeimlad o ryfeddod a pherthyn.

Mae Dysgu Creadigol yn y Blynyddoedd Cynnar yn adeiladu ar y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol gan Gyngor Celfyddydau Cymru sydd wedi dod â phrosiectau pwrpasol i dros 700 o ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig. Mae'r cynllun wedi cefnogi ysgolion i feithrin creadigrwydd disgyblion ac mae wedi eu paratoi i fod yn barod at y Cwricwlwm i Gymru 2022.

Mae dau gyfle i gymryd rhan ym menter Dysgu Creadigol yn y Blynyddoedd Cynnar.

1. Gall lleoliadau y blynyddoedd cynnar sydd â diddordeb mewn cymryd rhan ddarganfod mwy o wybodaeth a llenwi mynegiad o ddiddordeb sy'n fyw ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru tan 4 Hydref 2023 yma:

2. Gall Asiantwyr Creadigol sydd â diddordeb mewn gweithio gyda'r fenter ddysgu mwy ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru tan 12pm 25 Medi 2023 yma:

3. Gall Ymarferwyr Creadigol sydd â diddordeb mewn gweithio gyda'r fenter ddysgu mwy ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru tan 13 Tachwedd 2023 yma: