Mae Dysgu creadigol yn y blynyddoedd cynnar yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru a Llywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Sefydliad Paul Hamlyn.

Bydd y fenter yn dod ag ymarferwyr blynyddoedd cynnar ac Arweinwyr creadigol ynghyd i greu amgylcheddau a phrofiadau sy'n gyforiog o iaith, chwarae, datblygiad corfforol, ymgysylltu â'r awyr agored, celfyddydau, creadigrwydd ac ymdeimlad o ryfeddod a pherthyn.

Mae Dysgu creadigol yn y blynyddoedd cynnar yn adeiladu ar y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol gan Gyngor Celfyddydau Cymru sydd wedi dod â phrosiectau pwrpasol i dros 700 o ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig. Mae'r cynllun wedi cefnogi ysgolion i feithrin creadigrwydd disgyblion ac mae wedi eu paratoi i fod yn barod at y Cwricwlwm i Gymru 2022.

Dros y 3 blynedd nesaf bydd Dysgu creadigol yn y blynyddoedd cynnar yn cydweithio â lleoliadau blynyddoedd cynnar, gan gyfuno egwyddorion canolog y Cwricwlwm newydd ar gyfer lleoliadau meithrin heb eu cynnal gan y wladwriaeth â'r dull dysgu a ddatblygwyd ar gyfer y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol.

Mae dau gyfle i gymryd rhan ym menter Dysgu creadigol yn y blynyddoedd cynnar.

1. Gall lleoliadau y blynyddoedd cynnar sydd â diddordeb mewn cymryd rhan ddarganfod mwy o wybodaeth a llenwi mynegiad o ddiddordeb sy'n fyw ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru tan 1 Chwefror yma.

2. Gall ymarferwyr creadigol sydd â diddordeb mewn gweithio gyda'r fenter ddysgu mwy ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru, yma.

"Mae'r cydweithrediad newydd hwn â Blynyddoedd Cynnar Cymru, a gefnogir gan Sefydliad Paul Hamlyn, yn nodi datblygiad newydd yn y rhaglen dysgu creadigol ac yn adeiladu ar y bartneriaeth lwyddiannus rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

"Mae'r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol wedi dangos sut y gall dod â gweithwyr creadigol proffesiynol ac athrawon ynghyd drwy greu newid ar draws yr ysgol gyfan. Mae athrawon yn defnyddio creadigrwydd i feithrin cariad at ddysgu, i ddysgu y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth draddodiadol ac i wireddu potensial eu disgyblion ar draws pob maes o'r cwricwlwm.

"Bydd ymestyn y profiadau hyn i'n disgyblion ifanc yn tanio eu chwilfrydedd naturiol a'u hymgysylltiad â dysgu ac yn cefnogi eu datblygiad fel disgyblion annibynnol drwy gydol eu hoes."

Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru.

"Bydd y fenter hon sydd wedi’i chynllunio i gyd-fynd â'r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau nas cynhelir yng Nghymru, yn creu cyfleoedd sy’n ysbrydoli artistiaid a lleoliadau blynyddoedd cynnar i gydweithio drwy gyd-adeiladu prosiectau sy'n gweithio gyda disgyblion rhwng 3 a 4 oed. Bydd y fenter yn cefnogi creadigrwydd a chwilfrydedd naturiol plant ac yn ysbrydoli ymarferwyr blynyddoedd cynnar gyda syniadau a dulliau newydd o addysgu. Gallant gynnwys wedyn ymarferion creadigol y meddwl yn eu hymarfer, ar draws y cwricwlwm, a thrwy eu lleoliad.

"Mae’n gyffrous i lansio'r prosiect hwn yn 2023 ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda lleoliadau ledled Cymru, a chydag artistiaid ar draws ystod eang y celfyddydau yng Nghymru. Mae’r posibilrwydd yn gyffrous o weld y prosiectau cydweithredol yn agor syniadau newydd i greu profiadau, sy’n ysbrydoli’r oedolion sy’n eu galluogi, ac i wella'r amgylcheddau sydd i gyd yn cyfrannu tuag at helpu ein disgyblion ifancaf i gychwyn ar eu taith tuag at fod yn uchelgeisiol a mentrus ac yn gyfranwyr creadigol drwy eu profiadau addysg gynnar."

David Goodger, Prif Weithredwr Blynyddoedd Cynnar Cymru.