Oes diddordeb gennych chi mewn ysgrifennu ar gyfer y theatr? Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn trefnu gweithdy diwrnod gyda’r arbenigwr stori, John Yorke – ac mae lle i 3 sgwennwr i ymuno yn rhad ac am ddim.

Gweithdy Stori gyda John Yorke
4 Mehefin, 10am – 4pm
Lleoliad yng Nghaerdydd (union man i’w gadarnhau)

Ry’n ni’n awyddus i gefnogi a datblygu sgwennwyr theatr Cymru a bydd y gweithdy hwn yn atgyfnerthu eu dealltwriaeth o elfennau sylfaenol dweud stori. Mae hyn yn cynnwys archwilio’r glasbrint naratif sy'n ffurfio sylfaen pob drama, ynghyd â chynnig technegau ymarferol i gefnogi'r broses ddatblygu ac ysgrifennu. Gellid defnyddio’r gweithdy hwn i atgoffa ac adfywio’r grefft ar gyfer sgwennwyr mwy profiadol ac fel cyflwyniad i'r rhai sy'n newydd i greu stori.

Mae John Yorke yn adnabyddus am fod yn arbenigwr mewn dramâu teledu ac mae wedi sefydlu ei enw fel arweinydd blaenllaw mewn naratif stori. Mae llyfr John Into the Woods: How Stories Work and Why We Tell Them yn llwyddiant ysgubol yn y DU ac yn Ewrop, gan gynnig mewnwelediadau gwerthfawr i sut mae stori yn gweithio. Fel sylfaenydd Academi Ysgrifennwyr y BBC, mae wedi chwarae rhan hanfodol yn magu talent newydd yn y diwydiant ysgrifennu teledu.

Cynnwys y Gweithdy:
Cynhelir y gweithdy diwrnod hwn trwy gyfrwng y Saesneg a bydd yn cynnwys:

  • Deall yr elfennau craidd o adrodd stori llwyddiannus
  • Defnyddio wyth elfen hanfodol stori a datgymalu naratifau
  • Dod yn gyfarwydd â strwythur act, yn arbennig y model pum-act
  • Y gallu i ganfod a mynd i'r afael â phroblemau cyffredin adrodd stori
  • Dealltwriaeth ehangach o sut i gydweithio'n effeithiol gydag ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr, ac actorion

Yn dilyn y gweithdy, bydd gan gyfranogwyr fynediad i ystafell hyfforddi ar-lein breifat gyda deunyddiau dysgu ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd i adolygu cynnwys y sesiwn, cwblhau ymarferion ymarferol, a chydweithio â chyfoedion i gadarnhau egwyddorion storïo.

Sut i fynegi eich diddordeb:

Os hoffech roi eich enw i’r het i gael lle yn y gweithdy, cwblhewch y ffurflen ganlynol:
https://forms.office.com/e/X7nGcURab5 

Mae lle i 3 artist ymuno yn y gweithdy a bydd yr enwau yn cael eu dewis ar hap. Bydd y rhai a ddewisir yn ymuno â dramodwyr llawrydd sydd â’u gwaith mewn datblygiad gyda’r cwmni. Nid oes tal i fynychu'r diwrnod ond bydd y gweithdy yma’n cael ei gynnig yn rhad ac am ddim. Bydd Theatr Gen yn talu costau teithio a llety i’r ymgeiswyr llwyddiannus os nad ydynt yn byw o fewn 25 milltir i Gaerdydd.

Mae croeso i chi gysylltu â Steffan Wilson-Jones ar steffan.wilson-jones@theatr.com gydag unrhyw gwestiynau.

Dyddiad cau: 13/05/2024