Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Cwm Elan, yn chwilio am wyth o artistiaid sydd wedi’u lleoli yng Nghymru i ddod yn Gymrodyr Cymru’r Dyfodol.

Mae’r Gymrodoriaeth yn gyfle gyda thâl i wyth o artistiaid, a fydd yn cael grant o £25,000 yr un, dreulio 16 mis yn gwneud gwaith ymchwil creadigol ar thema ‘cysylltiad â byd natur’. Dyma gyfle i herio ein dealltwriaeth a’n perthynas â byd natur ac i ganfod ffyrdd o ailgysylltu pobl a chymunedau â’r byd natur sydd o’u hamgylch nhw.

Gall yr artistiaid weithio mewn unrhyw ffurf gelfyddydol a byddan nhw’n cael cymorth i ddatblygu eu gwaith ymchwil artistig eu hunain, ond hefyd i ymwneud â chyfranogwyr a chynulleidfaoedd wrth drin a thrafod yr argyfwng natur a’n perthynas â byd natur.

Mae’r cyfle hwn yn rhan o’r Bartneriaeth Natur Greadigol rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, sy’n ceisio meithrin y berthynas rhwng y celfyddydau a’r amgylchedd naturiol, fel rhan o ymrwymiad ar y cyd i wella llesiant amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Rydyn ni’n credu y gall byd natur a’r celfyddydau helpu i hybu lles a gwella ansawdd bywydau pobl, a dyna sydd wedi ein cymell i bennu’r thema ‘cysylltiad â byd natur’.

Mae Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol ar agor i bawb, ond byddwn ni’n croesawu’n benodol geisiadau gan unigolion o gefndiroedd sy’n cael eu tangynrychioli. Gall pobl sy’n cael eu tangynrychioli olygu pobl sy’n wynebu rhwystrau wrth geisio cael cyfleoedd, a hynny oherwydd eu rhywioldeb, ethnigrwydd, cefndir cymdeithasol ac economaidd, neu anabledd.

Yn ogystal â’r partneriaid newydd, sef yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Cwm Elan, rydyn ni wrth ein boddau’n cyhoeddi bod Peak Cymru wedi’i ddewis (yn dilyn proses ymgeisio drwy alwad agored) i gyd-drefnu’r rhaglen ddatblygu ar gyfer y Cymrodyr, gan gydweithio â’r rheolwr celfyddydau a’r cynhyrchydd creadigol, Elen Roberts.

Bydd yr artistiaid llwyddiannus sy’n cael eu gwahodd i fod yn Gymrodyr Cymru’r Dyfodol:

  • yn cael grant gwerth £25,000 ar gyfer Cymrodoriaeth a fydd yn para 16 mis, a hynny rhwng mis Rhagfyr 2023 a mis Mawrth 2025.
  • yn datblygu gwaith ymchwil creadigol sy’n rhoi sylw i themâu’r Gymrodoriaeth ac yn ennyn diddordeb cyfranogwyr a chynulleidfaoedd. 
  • yn cymryd rhan mewn rhaglen ddatblygu wedi’i threfnu gan Peak Cymru, sy’n cyfuno deialogau, mentora a chefnogaeth guradurol, sgyrsiau adeiladol ynghylch syniadau, gwaith ymchwil a gwaith ar y gweill, a thri ymweliad preswyl wyneb-yn-wyneb dros dri diwrnod gydag ymarferwyr gwadd.
  • yn rhannu eu hymarfer a’u proses fel rhan o sgyrsiau traws-sector ehangach sy’n archwilio ein perthynas â byd natur drwy gyfrwng 1-2 o ddigwyddiadau cyhoeddus dros gyfnod y Gymrodoriaeth. 
  • yn cael cyfleoedd i ddysgu ar safleoedd sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Cwm Elan, ac i ymateb i’r safleoedd hynny.

Bydd y gronfa’n agor i geisiadau ddydd Mercher 2 Awst 2023, ac yn cau ddydd Gwener 15 Medi 2023. 

Gwnewch gais fan hyn: 

Os hoffech chi ddarganfod mwy am ymuno â Chymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnal 2 ddigwyddiad ar-lein. 

1000-1100, 30 Awst 2023 gyda’r Gweithgor Hinsawdd a Diwylliant. Cliciwch yma i gofrestru:  https://forms.gle/6592o2bByrvyNhVa8

0830-0930, 6 Medi 2023 gyda What’s Next? Cymru https://eisteddfod.zoom.us/j/83413535015#success 

“Mae’r celfyddydau’n rhoi ffordd rymus i ni o drin a thrafod ein cysylltiad â byd natur, sy’n bwysig er mwyn hybu ein lles ni’n hunain ac wrth weithredu i warchod byd natur ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydyn ni wrth ein boddau’n gallu cynnig cyfle i artistiaid edrych ar y thema hon drwy Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol, a hynny fel rhan o’n Partneriaeth Natur Greadigol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Braf hefyd yw croesawu partneriaid newydd, sef yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Cwm Elan a Peak Cymru, i fod yn rhan o ail rownd y Gymrodoriaeth.”

Judith Musker Turner – Rheolwr Portffolio, Cyngor Celfyddydau Cymru

 

“Rydyn ni’n gwybod bod angen i ni weithredu’n fyd-eang, ac ar frys, i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, ond weithiau drwy wneud y pethau bychain y mae gwneud y cyfraniad mwyaf at newid. Yn aml, byddwn ni’n tanbrisio ein perthynas bersonol â byd natur, a gall ein hamgylchiadau cymdeithasol ddylanwadu’n anghymesur ar ein gallu i fwynhau byd natur. Gan ddatblygu ar rownd gyntaf Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol, rydyn ni wrth ein boddau’n cynnig cyfle i 8 o artistiaid i dreulio amser creadigol yn trin a thrafod beth yw ystyr cysylltiad â byd natur i ni heddiw, a sut gallwn ni roi lle canolog i gyfiawnder hinsawdd wrth ymwneud â byd natur yn y dyfodol.” 

Joseph Roberts, Ymgynghorydd Arbenigol Arweiniol: Mynediad a Hamdden Awyr Agored, Cyfoeth Naturiol Cymru