RaD - Rhaglen Breswyl Artist Dawns, Haf 2024

Rhaglen breswyl yw RaD sy'n canolbwyntio ar ymgysylltu â'r gymuned tra'n meithrin y doniau o artistiaid dawns sy'n byw, gweithio neu sydd ag awydd i weithio ym Mhowys.

WRTH EI WRAIDD

Mae RaD yn ymwneud ag ymgysylltu a chydweithio â 3 grŵp penodol i greu modelau newydd o ymarfer dawns cymunedol y gellid eu graddio a’u datblygu’n feysydd gwaith newydd i Impelo mewn partneriaeth ag artistiaid dawns.

Y 3 grŵp yw;

  • Oedolion hŷn
  • Dan 4 oed
  • Oedolion anabl a niwroamrywiol

Gyda'r colledion cyllid craidd diweddar rydym yn gwybod ein bod mewn perygl o golli ein cymdeithion dawns llawrydd i’r ardal a’r proffesiwn. Mae eu creadigrwydd, eu hangerdd a’u sgiliau wrth wraidd y prosiect a phopeth a wnawn. Rydym yn awyddus i archwilio sut y gallem gydweithio yn y dyfodol

Nodau’r rhaglen:

  • Mapio, graddio, profi a datblygu llinynnau newydd o waith gydag artistiaid dawns
  • Codi ymwybyddiaeth o dirwedd dawns gymunedol ym Mhowys a datblygu'r ecoleg trwy archwilio modelau newydd o ymarfer cydweithredol gydag artistiaid dawns ym Mhowys

Sut y bydd yn gweithio:

  • Byddwn yn gweithio gyda 9 artist dawns rhwng Mehefin ac Awst o fewn y 3 grŵp uchod.
  • Bydd yr holl ddawnswyr yn cael eu cefnogi gan Impelo trwy reolwr prosiect ac artist dawns.
  • Mae 3 artist dawns wedi cael eu dewis ymlaen llaw yn seiliedig ar waith blaenorol i’r cwmni, mae 3 artist dawns wedi’u dewis trwy Y Nyth (ein rhwydwaith o ddawnswyr sy’n byw ac yn gweithio ym Mhowys) a bydd 3 artist dawns yn cael eu dewis fel rhan o’r alwad agored hon.

 

Beth yw’r cynnig?

  • Rhwng 6 - 10 diwrnod o breswyliad mewn lleoliad sy'n agos atoch chi ym Mhowys.
  • Ystod o fentora, dysgu ar y cyd a chyfleoedd DPP (datblygiad proffesiynol parhaus)
  • Amser i archwilio, ymchwilio ac efallai profi
  • Gweithio'n agos ochr yn ochr ag Impelo i greu gwaith perthnasol ac ystyrlon
  • Tâl o £250 y diwrnod

 

Am bwy rydym yn chwilio:

● Dawnswyr a all ddangos sut y bydd RaD yn meithrin eu hymarfer eu hunain

● Dawnswyr sy'n uchelgeisiol i herio eu hunain, a ninnau;

● Yn gallu ymrwymo i'r prosiect a bod yn barod i ddarparu blog/flog/dyddlyfr adfyfyriol yn myfyrio ar y broses.

 

Pryd:

Bydd y cyfnodau preswyl yn cael eu cynnal rhwng Mehefin ac Awst 2024

  • O dan 4 - 6 diwrnod rhwng 14eg Mehefin – 12fed Gorffennaf
  • Oedolion Hŷn -  6 diwrnod rhwng 1af Gorffennaf – 12fed Awst
  • Anabl ac Oedolion Niwrowahanol -10 diwrnod rhwng 12fed Gorffennaf -  23ain Awst

 

Sut mae gwneud cais: 

  • Cyflwynwch eich Cofnod Cyrhaeddiad (CV) cyfredol ynghyd â naill ai datganiad wedi ei recordio (dim mwy na 3 munud) / darn ysgrifenedig (dim mwy na 500 o eiriau) yn tanlinellu:
  • Pa grŵp cymunedol yr hoffech weithio gyda nhw
  • Sut bydd y cyfnod preswyl yn datblygu eich ymarfer proffesiynol;
  • Syniadau neu feddyliau cychwynnol ar y broses greadigol neu gyflwyno dawns y gallech fod am eu harchwilio yn ystod y cyfnod preswyl.

 

Dyddiad cau 9am dydd Gwener 10fed Mai

 

Fesul e-bost: hello@impelo.org.uk

 

Os hoffech fwy o wybodaeth am y prosiect, neu bod gennych anabledd a/neu B/byddar ac angen cefnogaeth mynedid er mwyn gwneud cais, neu fod gennych unrhyw gwestiynau/ymholiadau, cysylltwch gyda jemma@impelo.org.uk a gallwn drefnu sgwrs/tecst dros y ffȏn neu ar alwad fideo.

Mae amrywiaeth yn ei holl ffurfiau yn gwneud hyn a’n holl brosiectau’n gryfach ac rydym yn annog pobl fyddar ac anabl, pobl Affricanaidd Alltud, pobl De Ddwyrain a De Asia, neu bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol eraill i ymgeisio.

  • Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan ymarferwyr dawns sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, byddar, anabl, niwro wahanol, siaradwyr Cymraeg a Pherson o Liw (ac rydym yn deall ac yn gwerthfawrogi efallai nad yw'r dawnswyr hyn wedi dod trwy lwybrau hyfforddi dawns traddodiadol);
  • Dawnswyr a all ddangos sut y bydd RAD o fudd iddynt wrth ddatblygu eu hymarfer;
  • Dawnswyr sy'n uchelgeisiol i herio eu hunain, eu cydweithwyr a ni;
  • Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan bobl sy'n dod o gefndir a dangynrychiolir mewn dawns.
Dyddiad cau: 10/05/2024