Mae'r adolygiad yn un ymrwymiad ymhlith nifer a wnaeth y Cyngor yn sgil adolygu sut roedd am ariannu sefydliadau celfyddydol o 2024/25 ymlaen.

Mae Jon â pharch yn y sector ac yn adnabyddus fel newyddiadurwr celfyddydol, academydd, awdur a beirniad. Bu’n ohebydd y celfyddydau a’r cyfryngau i BBC Cymru (2000-06) a Chymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli (2011-12). Mae wedi trafod y theatr ar wahanol lwyfannau gan gynnwys New Welsh Review, Wales Arts Review, BBC Radio Cymru, BBC Radio 4, BBC Radio Wales a Nation.Cymru lle mae'n Olygydd Llyfrau.

Mae Jon wedi ymrwymo i glywed barn pawb sydd ag unrhyw ddiddordeb yn y pwnc. Bydd yn cael ei gefnogi gan aelodau o'r Cyngor: Ruth Fabby, Gwennan Mair a Devinda de Silva ar y grŵp llywio ac yno hefyd bydd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr y Cyngor.

Bydd yr adolygiad yn cynnwys cyfweliadau targedol a chyfarfodydd cyhoeddus ym mis Hydref ac arolwg a fydd ar agor i bawb – dyma’r ddolen arts-wales.welcomesyourfeedback.net/s/v5a9q0 (cyn 30 Medi).

Polisi 'drws agored' fydd gan Jon wrth gynnal yr adolygiad a chroeso ichi gysylltu ag ef: jon.gower@celf.cymru.

Gobeithir rhannu’r canfyddiadau a'r argymhellion yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Rhagfyr a'u cyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Mae’r adolygiad yn digwydd ar yr un pryd â strategaeth ddeng mlynedd y Cyngor, felly mae'n gyfle i gyfeirio strategaeth y theatr Saesneg am flynyddoedd i ddod.