Mae Volcano yn cyflwyno ail dymor o berfformiadau byr gan artistiaid llawrydd o Gymru a thu hwnt, yn dilyn cyfres y llynedd Solo Duets for the Future.

Y syniad y tu ôl i’r prosiect 'The Shape of Things to Come' yw annog perfformwyr i ddatblygu dulliau perfformio newydd o flaen cynulleidfaoedd bach brwdfrydig. Rydym yn arbennig o awyddus i annog perfformwyr sy’n ymgysylltu â’r dyfodol, pwnc a dull perfformio sy’n ymwneud â’r hyn sydd i ddod neu “ddim eto”.

Rhaid i theatr ar gyfer yfory fod yn fentrus ac yn gyfranogol; gall hefyd fod yn chwareus ac yn wleidyddol. Dylai fod yn anarferol ac yn gyffrous, yn fyw gyda’r holl anghysonderau sy’n peri anawsterau i ni yn unigol ac ar y cyd ar hyn o bryd.

Mae'r comisiynau'n cael eu dyfarnu ar hyn o bryd, a byddant yn cael eu perfformio o ddiwedd mis Mai yng nghartref Volcano ar Stryd Fawr Abertawe.