Mae cronfa Creu Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnwys cymhorthdal datblygu busnes ac ailfodelu i sefydliadau fod yn fwy gwydn a pherthnasol drwy fuddsoddi mewn hyfforddiant,neu drwy dyfu a newid agweddau ar eu busnes. Mae busnes eich sefydliad yn hanfodol ichi allu bod yn greadigol.

Efallai yr hoffech wella eich sgiliau fel arweinydd neu reolwr neu wneud eich ymarfer celfyddydol yn fwy cynaliadwy. O bosibl mae’n bryd gofyn am arbenigedd allanol i ddatblygu elfennau o'ch gwaith fel datblygu cynulleidfa neu farchnata.

Rhaglen Ariannu’r Celfyddydau gan y Loteri Genedlaethol yw Creu a Chyngor Celfyddydau Cymru sy’n ei rheoli. Ei nod yw meithrin y celfyddydau ar ôl y pandemig. Cefnoga brosiectau i gynllunio  dyfodol newydd a chreu sector cryf a gwydn sy'n adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth.

Gallwch ymgeisio i’r gronfa ar unrhyw adeg. Gadewch o leiaf 6 wythnos rhwng cyflwyno eich cais a dyddiad dechrau’r prosiect.

Am ragor o wybodaeth a sut i ymgeisio, cliciwch yma.