Yn y cwrs preswyl 5 diwrnod hwn, wedi’i drefnu mewn partneriaeth ag Arvon, bydd y llenorion arobryn Jay Griffiths, Tom Bullough a Pascale Petit yn archwilio'r cwestiwn canolog: beth mae'n ei olygu i fod yn awdur heddiw, yng ngoleuni'r Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol? Sut allwn ni fynd i’r afael ag ehangder yr argyfwng rydym ni ynddo, gydag ysgrifennu creadigol effeithiol? Bydd yr encil yn cynnwys trafodaethau sy'n rhannu ein profiad o'r Argyfwng yn benodol fel awduron, ac yn archwilio'r strategaethau personol, cyhoeddus a llenyddol sy'n ein grymuso ni fel awduron yn hytrach na'n parlysu. Bydd awduron newydd a rhai mwy profiadol yn elwa o weithdai dwys, tiwtora un-i-un ac amser i ysgrifennu a chreu syniadau, yn ogystal ag adborth gan gymheiriaid mewn darlleniadau grwpiau bach.

20 – 24 Gorffennaf 2023