Ym mis Mawrth 2021, ymgasglodd artistiaid a phobl greadigol ym Mynyddoedd Cambria mewn digwyddiad a gynhaliwyd ar y cyd gan Articulture a Circostrada, ac a gefnogwyd gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Buont yn archwilio rhaglen o weithgareddau, gan gynnwys cyfres o sgyrsiau, teithiau cerdded a gweithdai i ennill gwybodaeth newydd a newid canfyddiad ynghylch y pwnc o greadigrwydd ac arferion ecolegol-ymwybodol.

Yn ystod ‘Cynulliad Celfyddydau Awyr Agored', cafwyd cyflwyniad gan wneuthurwr theatr a ffilm Sita Thomas i ddechrau’r ail ddiwrnod o ddigwyddiadau, mewn cydweithrediad â’r artist dawns Osian Meilir.

Gwyliwch y cyflwyniad llawn isod.

Am Articulture

 

Mae Articulture yn cefnogi datblygiad celfyddydau awyr agored arloesol ac o ansawdd dda a chynulleidfaoedd ymgysylltiedig amrywiol yng Nghymru. Maent yn aelod gweithredol o rwydweithiau rhyngwladol allweddol celfyddydau awyr agored gan gynwys y rhwydwaith European Circus and Street arts, Circostrada, yn ogystal ag Outdoor Arts UK a’r National Association of Street Artists.

 

Am Circostrada

Circostrada yw'r rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer y syrcas gyfoes a'r celfyddydau awyr agored. Fe’i ffurfiwyd yn 2003 gyda’r nod o ddatblygu ac atgyfnerthu’r sectorau hyn, ac ennill cydnabyddiaeth iddynt ar raddfa Ewropeaidd ac yn fyd-eang.

Yn ogystal â’r cyflwyniad hwn a ffilmiwyd, bu Sita yn dogfennu'r diwrnod ar sianel Instagram Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, gan rannu mewnwelediadau a chyfweliadau.