Ymgynghorydd Datblygu Busnes
Amdanom ni
‘Mae cynulleidfa yn gwybod beth mae’n ei wneud. Os yw'n sefyll mewn ymateb ar y cyd mae hynny'n digwydd am reswm. Mae'r cwmni wedi gwneud iddo ddigwydd'
-Theatre in Wales
Tanio dychymyg y genedl
Rydyn ni'n storïwyr sy'n gweithio gyda…
Llawenydd - creu gwaith sydd ag uniondeb, angerdd a llawenydd yn ganolog iddo.
Pobl - gweithio ar y cyd, yn gynhwysol gyda pharch at bawb.
Rhyfeddod - creu gwaith sydd â'r uchelgais i ysgogi syniadau, meddyliau a chwestiynau amdanom ein hunain a'r byd yr ydym yn byw ynddo.
Wedi’i gwreiddio yng nghymoedd Cymru, mae Theatr na nÓg yn creu theatr wreiddiol sy’n cysylltu’n wirioneddol, gan sicrhau perthnasedd a hygyrchedd i bawb. Mae’r sefydliad yn ffynnu ar ddod â straeon ysbrydoledig am gymeriadau Cymreig sy’n cyflawni’r rhyfeddol yn fyw – o gantores fyd-enwog o’r cymoedd i wyddonydd diymhongar o Frynbuga. Mae'r diwylliant yn gwau ei ffordd trwy bopeth y mae'n ei gynhyrchu a'i gyflwyno. O sioeau i gynulleidfaoedd ifanc mewn ysgolion i leoliadau yn y cymoedd ar hyd a lled y wlad.
Mae gan y cwmni angerdd am freuddwydio am gydweithrediadau cyffrous y tu allan i fyd y theatr gan arwain at amrywiaeth cynulleidfaoedd. Mae ganddo’r gallu i weld potensial mewn cyd-gynhyrchu gyda lleoliadau a bod yn ddarparwr rheolaidd o waith prif lwyfan, gan alluogi ymgysylltu cynulleidfaoedd o ardaloedd difreintiedig yn gymdeithasol De Cymru i ardaloedd gwledig Canolbarth Cymru.
Am y Rôl
Mae Theatr na nÓg am arallgyfeirio ei hincwm ac adeiladu gwytnwch ariannol yn ystod cyfnod o ansicrwydd i’r cwmni a’r diwydiant theatr ehangach.
Bydd yr Ymgynghorydd Datblygu Busnes yn gweithio ar ei liwt ei hun i greu astudiaeth ddichonoldeb sy’n nodi cyfleoedd ar gyfer cynyddu incwm heb effeithio ar strategaeth a gwerthoedd craidd Theatr na nÓg. Gall hyn gynnwys adolygu ein hasedau presennol yn ogystal â nodi cyfleoedd newydd ar gyfer cynhyrchu incwm. Ni fydd y rôl hon yn gyfrifol am raglennu ein hallbwn artistig.
Ariennir y rôl hon a’r astudiaeth ddichonoldeb ddilynol gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Rachel Fryer, Rheolwr Cyffredinol, rachelfryer@theatr-nanog.co.uk
Disgwyliadau
- Deall a gweithio o fewn gwerthoedd craidd Theatr na nÓg
- Cydgysylltu â’r Cyfarwyddwr Artistig a’r Rheolwr Cyffredinol i nodi asedau presennol y sefydliad a allai gynhyrchu incwm pellach
- Nodi meysydd eraill lle gellir creu incwm
- Paratoi diweddariad interim i’w gyflwyno gan y Rheolwr Cyffredinol yng nghyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ym mis Gorffennaf 2024
- Paratoi adroddiad dichonoldeb terfynol yn manylu ar gynhyrchu incwm tymor byr a thymor hir a dadansoddiad cost a budd perthnasol. Rhaid paratoi'r adroddiad yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Cyflwyno’r adroddiad terfynol yng nghyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ym mis Hydref 2024.
- Gweithio gyda'r Cyfarwyddwr Artistig a'r Rheolwr Cyffredinol i roi'r cynigion ar waith yn y lle cyntaf
Cais
I wneud cais am y rôl hon, cyflwynwch gynnig trwy e-bost at Rachel Fryer, Rheolwr Cyffredinol erbyn 20 Mai 2024. Defnyddiwch y pennawd pwnc ‘Ymgynghorydd Datblygu Busnes’ ac e-bostiwch rachelfryer@theatr-nanog.co.uk
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion neu sefydliadau o bob sector; nid yw profiad o fewn y diwydiant theatr neu gelfyddyd yn ofyniad ar gyfer y rôl hon. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg.
Mae arddull a fformat y cynigion unigol yn hyblyg ond disgwylir I bob cynnig gyflwyno’r wybodaeth ganlynol yn glir ac yn gryno:
- Cefndir a phrofiad perthnasol yr ymgeisydd, gan gynnwys enghreifftiau o waith tebyg a re u
- Cefndir a phrofiad perthnasol yr holl unigolion a fyddai’n ymwneud â chyflwyno’r prosiect
- Ymateb I’r briff a disgrifiad o’r dull gweithredu cyffredinol
- Tasgau a dilyniant, gan gynnwys methodoleg ac amserlen glir ar gyfer cyflawni
- Cyllideb fanwl, gan gynnwys y gyfradd ddyddiol a threuliau
- Enwau a manylion cyswllt o leiaf 2 ganolwr y mae gwaith tebyg wedi’I wneud ar eu cyfer.
Cyllideb
- Cyfrifoldeb penodol yr ymgeisydd yw rhoi pris / dyfynbris addas i Theatr na nÓg ar gyfer darparu a chwblhau'r astudiaeth dichonoldeb. Felly ni fydd Theatr na nÓg yn gohebu mewn perthynas â'r gyllideb. Disgwyliwn i bob ymgeisydd roi cynnig cystadleuol i ni yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd yn y ddogfen hon.