Wrth ymateb i gyhoeddiad drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer y gyllideb, lle gwelodd yr arian ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru yn gostwng 1.1% yn yr arian refeniw ar gyfer 23/24, dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu, Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Er ein bod yn derbyn  bod Llywodraeth Cymru wneud gorfod gwneud penderfyniadau anodd yn y cyfnod heriol hwn, rydym yn naturiol yn siomedig ynghylch y gostyngiad hwn yn ein cyllid.  Fodd bynnag, rydym yn falch o dderbyn £0.5m ychwanegol yn benodol er mwyn helpu sefydliadau celfyddydol i wynebu’r argyfwng costau byw presennol.  Mae’r heriau cyfoes yn rhoi pwysau enfawr ar sector sydd ond newydd ddechrau sefydlogi yn dilyn heriau sylweddol y pandemig.

"Bydd cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn helpu i amddiffyn swyddi a bywoliaethau ar draws y celfyddydau."

Mae Cyngor y Celfyddydau yn cwrdd ymhen ychydig dros fis i gadarnhau ei gynlluniau gwariant ar gyfer 2023/24.

DIWEDD    14 Rhagfyr 2022