Ar Ddydd Llun 24 Gorffennaf am 1pm, cewch glywed gan ein panel ar-lein o siaradwyr ysbrydoledig a gwybodus o Gyngor Celfyddydau Cymru a Noson Allan, dan gadeiryddiaeth y Fenter Ddawns Deithiol Wledig.

Yn ystod y digwyddiad hwn, byddwn yn archwilio'r cyfleoedd unigryw y mae teithio gwledig yn eu cynnig i artistiaid dawns. Dewch i glywed am brofiad personol o lwyddiant un artist teithiol enwog sydd wedi swyno cynulleidfaoedd gwledig gyda’i berfformiadau. Bydd Noson Allan a’r Fenter Ddawns Deithiol Wledig sy'n cyfrannu at brofiadau celfyddydol gwledig yn mynd â chi ar daith rithiol drwy eu llwyddiannau o gydweithio ag artistiaid dawns a dangos effaith dawns ar gymunedau gwledig. Cewch wir ddarlun o gymhlethdod a llawenydd teithio gwledig a dysgu sut i ymgysylltu â chymunedau amrywiol drwy ddawns.

Ar ddiwedd y sesiwn bydd cyfle i gwestiynau am Alwad y Fenter Ddawns Deithiol Wledig a sut y gallwch wneud cais i fod yn rhan o'r prosiect ar gyfer 2024/25: https://theplace.org.uk/opportunities/rural-touring-dance-initiative-call-out-for-artists

Ansicr a fydd hyn at eich dant? Cewch weld rhagor am y Fenter Ddawns Deithiol Wledig a sut mae’r prosiect yn gweithio yma: https://theplace.org.uk/work-with-us/projects/rural-touring-dance-initiative

Cofrestrwch nawr ar gyfer y digwyddiad ar-lein sy’n rhad ac am ddim: https://forms.gle/x6YMe6kouZD3JLYt8