Ydych chi'n barod am hwb i'ch cwricwlwm yn y flwyddyn academaidd newydd? Dyma flas o'r hyn sydd i ddod gan Ddysgu Creadigol Cymru yr hydref yma.

P’un a ydych am ddylunio profiadau dysgu creadigol a dilys, eisiau cyfle i weithio ochr yn ochr â gweithwyr creadigol i archwilio amrywiaeth yng Nghymru, neu os hoffech ddarparu profiadau celfyddydol a diwylliannol o safon i’ch disgyblion, dyma’r cyfleoedd sydd ar gael o fis Hydref wrth i ni barhau i gefnogi ysgolion i wireddu Cwricwlwm i Gymru, gan roi’r celfyddydau a chreadigrwydd wrth wraidd addysg.

Mae Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yn rhoi’r cyfle i archwilio dulliau creadigol o addysgu a dysgu gyda chymorth Asiantau ac Ymarferwyr Creadigol. Gan ddefnyddio addysgeg dysgu creadigol, 5 Arfer Creadigol y Meddwl, bydd y cynllun yn ymaddasu i anghenion unigryw amgylchiadau pob ysgol.

Mae Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol yn tynnu ar gryfderau’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol ac yn cynnig cyfle i ysgolion weithio gyda Gweithwyr Creadigol Proffesiynol amrywiol i edrych ar ffyrdd o archwilio hanes a datblygiad Cymru fel cymdeithas amlddiwylliannol.

Mae’r Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol yn tynnu ar ein profiad o hwyluso dysgu proffesiynol a’n dealltwriaeth a’n gwybodaeth ehangach, o sut y gall arweinwyr ysgol annog arloesi yn eu hysgol. Mae’n cynnig cyfle unigryw i amgyffred effaith addysgeg greadigol, gan feithrin arloesedd a thwf proffesiynol.

Mae ein cronfa newydd Rhowch Gynnig Arni yn gyfle i ddisgyblion gymryd rhan mewn gweithgarwch ymarferol a datblygu eu sgiliau yn y celfyddydau mynegiannol, yn yr ysgol a’r tu hwnt gydag Ymarferwyr Creadigol allanol.

Nodwch y cyfleoedd yn eich dyddiadur a bydd rhagor o wybodaeth ym mis Hydref am sut i ymgeisio.
 

Methu aros?

Cofiwch fod Ewch i Weld yn agored i gais. Mae’n cynnig i ysgolion y cyfle i brofi celfyddydau o safon ledled Cymru. Mwy yma.

Am fwy o wybodaeth, tanysgrifiwch i gylchlythyr Dygsu Creadigol yma.