Ar ddechrau eleni, cyhoeddodd PYST (cwmni dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig) a’r Mentrau Iaith Cenedlaethol fwriad i bartneru er mwyn lansio cylchdaith reolaidd i ddod â cherddoriaeth fyw Gymraeg i ardaloedd mwy gwledig ac ardaloedd nad oedd yn cynnal gigs byw bellach.

Heddiw rydym yn falch o gyhoeddi manylion ail daith y gylchdaith fydd yn gweld The Gentle Good yn perfformio mewn deg ardal arall yn ystod mis Hydref gyda chefnogaeth wahanol ymhob gig. Bydd y daith hon yn cael ei chefnogi gan gynllun Noson Allan.

Bydd The Gentle Good yn perfformio yn:
4.10 - Cartref Dylan Thomas, Abertawe (gyda Angharad Jenkins)
5.10 - Yr Hen Farchnad, Llandeilo (gyda Bwca)
6.10 - Y Cwtsh, Pontyberem (gyda Lowri Evans)
13.10 - Clwb y Bont, Pontypridd (gyda Y Dail)
14.10 - Memo, Y Barri (gyda Parisa Fouladi)
15.10 - Tyn y Twr Tavern, Baglan (gyda Melda Lois)
19.10 - Gwesty Pen y Bryn, Llanfairfechan (gyda Eve Goodman)
20.10 – Ystafell Gymunedol Ysgol Gymraeg y Trallwng, Y Trallwng (gyda Iwan Huws)
21.10 - Clwb Criced, Yr Wyddgrug (gyda Gwilym Bowen Rhys)
22.10 - Tafarn Y Fic, Llithfaen (gyda Gwyneth Glyn a Twm Morys)