Bydd ein sesiwn nesaf ar ddydd Mercher 14eg o Fehefin o 3:45-4:30pm. Yn y sesiwn hon byddwn yn edrych ar sut mae athrawon wedi amrywio eu cwricwlwm a defnyddio’r Rhaglen Dysgu Creadigol i gefnogi’r gwaith hwn.

Gallwch gofrestru ar gyfer Sgyrsiau Dysgu Creadigol: Amrywio’r cwricwlwm yma.

Bydd cyfieithu ar y pryd Cymraeg i Saesneg, capsiynau a dehongli BSL ar gael.

Mae Sgyrsiau Dysgu Creadigol yn gyfres o ddigwyddiadau sy’n parhau drwy gydol y flwyddyn academaidd. Bydd sesiynau yn y dyfodol yn cael eu cynllunio mewn ymateb i ddiddordebau athrawon a gweithwyr proffesiynol creadigol. Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech sbario 5 munud i gwblhau'r arolwg byr isod i'n helpu i ddatblygu sesiynau yn y dyfodol.

Adborth Sgyrsiau Dysgu Creadigol