Mae Cymru’n genedl o bobl sy’n adrodd straeon. Beth yw eich stori chi?

Dechreuodd NoGood Boyo fel grŵp o gerddorion a ffrindiau oedd eisiau'r cyfle i gymdeithasu ac yfed gyda'i gilydd. Wedi noson o beintiau yn y dafarn, ganwyd NoGood Boyo. Wedi’i henwi ar ôl cymeriad bachgen drwg Dylan Thomas o Under Milk Wood, mae NoGood Boyo yn achosi hafoc yn y tŷ golchi a’i hunig gymhelliant yw Mrs Dai Bread Two yn ei staes. Fodd bynnag, mae gennym fwy o ddiddordeb mewn achosi hafoc gyda cherddoriaeth draddodiadol Gymreig a rhwygo’r trwy’r pabell ddawns. Rydym yn sefyll wrth ein harwyddair, ‘go loud or go home boyo!’

 

 

Beth yw eich gysylltiadau chi â’ch gornel fach o Gymru?

Mae gennym ni i gyd gysylltiad dwfn â'n corneli amrywiol o Gymru. Rhyngom rydym yn gorchuddio dyffrynnoedd Tawe, Afan ac Ebwy Fach, a phentref chwedlonol Nefyn ym Mhen Llŷn. Mae ein treftadaeth wahanol yn ddylanwad cryf ar ein cerddoriaeth, o bysgotwr Penllŷn i lowyr De Cymru, canfyddwn gymeriadau hanesyddol lleol yn ein naratif a chaneuon traddodiadol, tra’n cysylltu â’r Gymru gyfoes trwy ganeuon fel Rhyddid Ffug ac Y Bardd o Montreal.

 

 

Mae gan Gymru straeon am gymeriadau sy’n filoedd o flynyddoedd oed, hyd at rai’r dydd hwn. A yw eich gerddoriaeth chi’n cysylltu â’r rhain, a beth yw eu stori?

Mae pob cân draddodiadol Gymreig yn gipolwg ar chwedl leol. Mae ein caneuon yn dod â hanesion pobl bob dydd yn fyw, a’u straeon wedi eu dal mewn cân. O’r cariadon torcalonnus i hanes yr hen ŵr dieflig a’i driniaeth erchyll o’i wraig, mae chwedlau bob dydd o’r gorffennol yn cael bywyd newydd ac yn derbyn cyd-destun newydd pwerus ym mywyd cyfoes modern.

 

 

Mae ieithyddiaeth ac iaith yn rhan fawr iawn o ddiwylliant Cymru. Pam eu bod nhw mor arbennig?

Mae’r Gymraeg, fel ei chefndryd Celtaidd, yn enghraifft anhygoel o wytnwch ieithyddol. Mae ein hiaith wedi goroesi yn groes i bob disgwyl i ffynnu fel iaith fodern. Daw’r iaith â’r allwedd i ddealltwriaeth well o dreftadaeth a hanes Cymru, yn ogystal â chefnogi ein hunaniaeth genedlaethol fodern.

 

 

Mae Cymru’n aml wedi bod yn enwog fel gwlad o chwedleuwyr, a chithau yn eu plith drwy eich gerddoriaeth. Wrth i Gymru esblygu ac wrth i seiniau newydd ddod i’r amlwg, i ba fath o Gymru y bydd y fflam yn cael ei throsglwyddo yn y dyfodol?

Fel cefnogwyr selog dros annibyniaeth i Gymru, rydym yn gobeithio gweld Cymru flaengar a chynhwysol; Gwlad sydd â’i gwreiddiau’n ddwfn yn ein treftadaeth a’n diwylliant unigryw ond un sy’n edrych tua’r dyfodol gyda llygad arloesol.

 

 

Beth yw eich gysylltiadau Celtaidd chi?

Fel band rydym yn aml yn gweithio ar y sîn ryng-Geltaidd. Yn y digwyddiadau hyn y teimlwn y cysylltiadau rhyngom ni a'r cenhedloedd Celtaidd eraill. Yr Ŵyl Interceltique de Lorient yw’r enghraifft orau o hyn. Mae bob amser yn gyfle i rannu a chymharu ein treftadaeth Geltaidd â cherddorion o’r gwledydd Celtaidd eraill. Boed yn iaith, dawns neu gerddoriaeth, mae cysylltiadau Celtaidd Cymru ar eu mwyaf diriaethol yn ystod eiliadau bach a mawr gŵyl fel Lorient.

 

 

Rydych chi ar fin cael cyfleoedd rhyngwladol newydd. Pa fath o gydweithio neu gyfleoedd ydych chi'n edrych ymlaen fwyaf atyn nhw?

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i gyflwyno ein dehongliad ein hunain o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru ar lwyfan rhyngwladol. Mae Cymru’n aml yn cael ei hanwybyddu o ran cerddoriaeth draddodiadol, felly rydym yn awyddus i sefyll ochr yn ochr â’n cefndryd Celtaidd i ddathlu ein treftadaeth Geltaidd unigryw ar y cyd.