Cafodd y Cwtsh Creadigol ei greu’n wefan ddwyieithog a’i lansio ym Mawrth 2022 gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi staff prysur y GIG a gofal cymdeithasol. Nawr bydd yn cael ei ymgorffori yn rhaglen newydd, Hapus, gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i lansio'n ffurfiol ym mis Gorffennaf.

Mae Hapus yn ymgyrch ac adnoddau ar-lein i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o les y meddwl. Mae'n annog a chefnogi pobl i neilltuo amser i’r pethau sy’n diogelu a hyrwyddo lles eu meddwl a’u blaenoriaethu gan gynnwys ymgysylltu â sector amrywiol y celfyddydau a diwylliant.

Dywedodd Liz Clarke, Rheolwr Rhaglenni Dros Dro’r Celfyddydau, Iechyd a Lles yn y Cyngor: "Roedd gwerthusiad annibynnol o'r Cwtsh Creadigol sy'n cynnwys rhagor na 70 o adnoddau dwyieithog sy'n ffordd o fanteisio ar greadigrwydd. Yr argymhelliad allweddol oedd agor yr adnoddau i'r cyhoedd.

"A ninnau’n bartner yn rhaglen Hapus, roeddem yn gweld gorgyffwrdd amlwg rhwng amcanion y Cwtsh a Hapus. Bydd Hapus yn gartref newydd i'r Cwtsh a’i gynnwys ac felly bydd yn rhan o ymgyrch gyhoeddus â phroffil uchel. Mae’n newyddion gwych i bobl Cymru sy'n cael mynediad at yr adnoddau ac i'r artistiaid gyda’u gwaith yn cyrraedd cynulleidfa ehangach."

Cyngor Celfyddydau Cymru a oedd wedi creu’r Cwtsh mewn ymgynghoriad â Gwella Addysg Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn sgil tystiolaeth o fuddion y celfyddydau i’n hiechyd a'n lles.


Llywodraeth Cymru sy’n ei ariannu'n rhannol. Mae'n cynnwys rhagor na 70 artist o bob rhan o Gymru. Mae yno fideos bach am wahanol weithgareddau creadigol gan gynnwys sesiynau dawns, caneuon, teithiau cerdded myfyriol drwy natur a jyglo.

Mae rhagor o wybodaeth am Hapus a’i adnoddau yma.