Ers 2016 mae nifer o awduron o Gymru wedi cael cyfle euraidd i ddysgu, rhwydweithio a datblygu eu doniau artistig trwy’r rhaglen ‘Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli’. Mae’r prosiect blynyddol yn derbyn nawdd gan raglen Creu Cyngor Celfyddydau Cymru, sy’n ariannu’r celfyddydau gydag arian y Loteri Genedlaethol, ac yn cael ei gefnogi gan Llenyddiaeth Cymru.

Ar ôl mynychu digwyddiadau gydol wythnos yr Ŵyl, yn ogystal â dosbarthiadau meistr a gweithdai gyda chyhoeddwyr, asiantiaid ac artistiaid rhyngwladol adnabyddus, mae nifer fawr o gyn-aelodau’r Rhaglen wedi cael llwyddiant mawr yng Nghymru a thu hwnt.

Un aelod o griw Rhaglen 2019, cyn i’r pandemig daro, oedd neb llai na Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa.

“Mae’r rhaglen Awduron wrth eu Gwaith wedi cefnogi fy ngwaith mewn gymaint o ffyrdd,” meddai Hanan, oedd hefyd yn Gymrawd Rhyngwladol yng Ngŵyl y Gelli eleni. “Roedd cael y cyfle i eistedd mewn ystafell gydag awduron profiadol a gofyn cwestiynau manwl am y broses ysgrifennu, am y broses gyhoeddi, roedd o’n agoriad llygaid ac fe chwalodd lot o rwystrau i mi.”  

Yn ystod y cwrs yn 2019 y bu i Hanan gyfarfod yr awduron Grug Muse a Darren Chetty, a gyda’i gilydd, ynghyd â’r llenor Iestyn Tyne, aethant yn eu blaenau i gyhoeddi’r llyfr sydd wedi derbyn canmoliaeth uchel, Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales (Repeater, 2022).

I Darren, uchafbwynt rhaglen Awduron wrth eu Gwaith oedd y cyfle i gyfarfod a dod i adnabod awduron eraill. Meddai: “Ges i fwy allan o’r Rhaglen nac oeddwn i’n ddisgwyl. Ro’n i’n gobeithio cyfarfod pobl a chael sgyrsiau a chyfarfod rhai o’r awduron dwi’n edmygu eu gwaith nhw, ac fe wnes i hynny, ond y cysylltiadau a’r perthnasau hir-dymor a arweiniodd at ddod â Welsh (Plural) at ei gilydd, roedd hynny’n fwy nag y gallwn fod wedi ei ddychmyg.”

Bob blwyddyn caiff criw newydd eu dethol a’u trochi mewn wythnos lawn o weithgareddau yng Ngŵyl y Gelli, ac er gwaetha’r oedi oherwydd Covid, mae’r Rhaglen nawr yn ôl yn ei hanterth. Roedd yr egin-awduron Francesca Reece a Brennig Davies yn sicr wedi profi’r wefr eleni.

“Dwi wir isio i’r ysbrydoliaeth yma barhau!” meddai Francesca, a gyhoeddodd ei nofel gyntaf, Voyeur (Tinder Press) yn 2021. “Mae wedi bod mor egnïol a chyffrous, a dwi wir yn gobeithio y bydda i’n mynd adref ac yn dal i deimlo’r egni yna, ac yn barod i fynd ati i ysgrifennu ac ysgrifennu yn well.”

Mae’r cyfle i rannu gwaith gydag awduron eraill yn rhywbeth mae’r holl aelodau yn amlwg yn ei werthfawrogi. Esboniodd Brennig, enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd yn 2019: “Roedd seminarau lle roedden ni’n gallu darllen gwaith ein gilydd, cynnig adborth a rhannu profiadau a mae hwnna wedi bod yr un mor werthfawr â siarad ’da’r awduron sydd falle ychydig bach yn fwy adnabyddus, jest datblygu’r berthynas ’na ’da pobl sydd â’r un diddordeb â’r un angerdd an sgwennu ac am lyfre.”

Mae’r Rhaglen wedi derbyn nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ers ei lansio gyntaf yn 2016.

“Fel corff sy’n gweithio i ddatblygu talentau newydd, mae cefnogi prosiect sy’n rhoi cyfleoedd i artistiaid fel rhaglen Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli yn un o’n blaenoriaethau,” meddai Lleucu Siencyn, Cyfarwyddwr Datblygu’r Celfyddydau yng Nghyngor Celfyddydau Cymru.

“Mae wedi bod yn hynod o gyffrous gweld sut mae cynllun fel hyn yn galluogi artistiaid i fynd ymlaen i ennill clod rhyngwladol, gan helpu i roi talentau artistig Cymru ar y map.”