Prin y gwyddwn wrth eistedd a gwylio sioe gan Gwmni Theatr Fran Wen mewn theatr ar 5ed Mawrth 2020 ‘mod i’n gwylio’r sioe fyw olaf y byddwn yn ei gweld am fisoedd ar fisoedd. Roeddwn yn ngogledd Cymru er mwyn siarad â llyfrgelloedd ynghylch y posibilrwydd y medrent gynyddu defnydd cymunedol trwy lwyfannau perfformiadau trwy gynllun Noson Allan.  Mae’n syniad syml – mae cynllun Noson Allan yn fodd i gael gwared ar y risg ariannol i grwpiau cymunedol er mwyn iddynt gael trefnu digwyddiadau cerddorol, theatr a pherfformiadau byw mewn adeiladau a gofodau cymunedol lleol.  Yn ystod blwyddyn ariannol 2019-20, roedd dros 530 o sioeau a drefnwyd gan dros 300 o grwpiau cymunedol trwy’r cynllun.

Wrth i mi deithio i gyfarofydd amrywiol yng ngogledd Cymru, fe gefais sgyrsiau nerfus ynghylch effaith posib y feirws, ond wnaeth neb feddwl am unrhyw beth tebyg i’r cyfnodau clo a’r mesurau ymbellhau cymdeithasol a gyflwynwyd ychydig wythnosau yn ddiweddarach.

Bellach mae’n 15 mis yn ddiweddarach a rydw i mewn perfformiad byw yn Neuadd Gymunedol Rhydri ger Caerffili.   Wrth i’r cyfyngiadau lacio, mae Llywodraeth Cymru yn dweud y gallir ail gychwyn perfformiadau byw unwaith eto. Mae ‘na gyfrifoldeb wrth gwrs ar y trefnydd i sicrhau bod yr achlysur yn un diogel. Rhaid i gynulleidfaoedd ymbellhau’n gymdeithasol, rhaid gwisgo mygydau wrth symud o gwmpas a does na ddim ciwio ger y bar.  O ganlyniad i ymbellhau cymdeithasol mae cyfyngu sylweddol ar niferoedd, gyda neuadd a arferai allu dal cynulleidfa o gant a rhagor, bellach ond yn medru caniatáu cynulleidfa o 30.  Mae’r byrddau wedi eu gosod allan fel ar gyfer cabaret; wrth i ni gyrraedd rydym yn cael ein hebrwng at y bwrdd sydd wedi ei ddynodi ar ein cyfer. 

Y cyntaf i berfformio heno yw’r bachgen lleol o Fedwas, Rob Lear a’i fand, ac yna yn ei ddilyn daw Mishra, sef deuawd o Sheffield sy’n perfformio cerddoriaeth gwerin byd-eang. Roeddd yn hyfryd cael bod yn rhan o ddigwyddiad cerddorol byw unwaith yn rhagor. Mae gan Rob Lear lais hyfryd ac mae’n cyfansoddi tiwns da. Roedd Mishra hefyd yn hyfryd gyda chymysgedd hyfryd o banjo, ffliwt a drymiau tabla– Americana yn cofleidio India gyda chusan i gerddoriaeth werin.

Roedd yr artistiaid oll yn dwlu perfformio’n fyw unwaith eto, a rhaid cyfaddef i mi gael deigryn y fy llygaid i hefyd wrth iddyn nhw siarad ynghylch y llawenydd o gael cyswllt â chynulleidfa fyw, a chael perfformio unwaith eto. Roedd y gynulleidfa yn werthfawrogol iawn, gan lynu at y rheolau ymbellhau cymdeithasol, a roedd y noson gyfan wedi ei threfnu’n rhagorol gan wirfoddolwyr ‘Off The Beaten Track’, ac fe deimlai’n ddiogel.

Mae’n bosib eich bod yn holi “pam mynd i’r drafferth” o drefnu digwyddiad pan roedd cyn lleied â 30 o bobl yn medru mynychu, ond mae’n gam cyntaf ar y daith i alluogi cymunedau i gwrdd ynghyd unwaith eto a chaniatáu i gerddorion fedru ennill bywoliaeth unwaith eto, ac i bawb gael cyd-gysylltu unwaith eto trwy rannu profiad ar y cyd.

Y noson ganlynol fe fûm yn gwylio pêl-droed yr Ewros, gyda degau o filoedd o gefnogwyr wedi dod ynghyd, gan ddathlu, cydymdeimlo a chofleidio.  Mae’n anodd dadlau â’r farn bod artistiaid wedi eu hanwybyddu yn dawel bach.