Lansiodd Llywodraeth y DU y Cynllun Lliniaru Biliau Ynni ddechrau'r mis er mwyn darparu cymorth i fusnesau cymwys tan o leiaf 31 Mawrth 2023.

 Mae Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU (BEIS) bellach yn gwahodd busnesau ac elusennau i gwblhau arolwg ar eu defnydd o ynni, effeithiau'r cynnydd mewn costau a chael gwared ar y pecyn cymorth ynni, ac unrhyw fesurau i leihau costau ynni.

Mae DCMS wedi comisiynu Cyngor Celfyddydau Lloegr i gynnal yr arolwg ac mae’r arolwg i’w gael yma: Adolygiad Cynllun Rhyddhad Bil Ynni - Arolwg Sector | Cyngor Celfyddydau Lloegr (yn Saesneg yn unig gwaetha'r modd).

Mae'r arolwg yn berthnasol i bob cenedl o fewn y DU, felly byddai'n dda petai effaith yr argyfwng ynni ar y sector celfyddydau yma yng Nghymru yn cael ei glywed gan Lywodraeth y DU. Mae'r cwestiynau yn ymwneud â'ch defnydd o ynni, faint o filiau sydd wedi mynd i fyny, ydych chi wedi gallu ail-negodi biliau, effaith y costau cynyddol ar eich sefydliad – mae'n bwysig iawn i gael gwybodaeth o Gymru wedi'i bwydo i'r arolwg hwn.