Heddiw, y 7fed o Fawrth 2024, mae Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi beirniaid Gwobr Llyfr y Flwyddyn, a lleoliad y seremoni wobrwyo ar gyfer 2024.

Llyfr y Flwyddyn yw gwobr lenyddol genedlaethol Cymru. Gan ddathlu llenorion talentog Cymreig yn y Gymraeg a’r Saesneg, mae’r wobr yn rhoi cydnabyddiaeth i rai o awduron amlycaf Cymru, yn ogystal â llwyfan allweddol i awduron sy’n cyhoeddi cyfrolau am y tro cyntaf. Mae Llyfr y Flwyddyn yn rhan annatod o weithgaredd Llenyddiaeth Cymru, ac yn cyfrannu tuag at eu strategaeth o ddathlu a chynrychioli diwylliant, awduron a threftadaeth lenyddol Cymru.

 

Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – BarddoniaethFfuglenFfeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, gydag un o’r enillwyr yn mynd ymlaen i ennill y Brif Wobr, ac yn hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn. Yn ogystal bydd cyfle i’r cyhoedd bleidleisio i wobrwyo enillwyr Barn y Bobl a’r People’s Choice.

 

Y Beirniaid

 

Ar y panel Cymraeg eleni mae’r bardd ac Uwch Arholwr Llenyddiaeth CBAC Tudur Dylan Jones; yr actor, cyfarwyddwr ac awdur Hanna Jarman; yr awdur ac Uwch-Ddarlithydd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd Rhiannon Marks; a’r cynhyrchydd, cyfarwyddwr, awdur a chyn-Gomisiynydd Cynnwys S4C Nici Beech.

 

Ar y panel Saesneg eleni mae’r awdur, newyddiadurwr a chadeirydd PEN Cymru Dylan Moore; yr awdur, Cymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol a mentor profiadol Patrice Lawrence; y nofelydd, dramodydd a chyn-enillydd Gwobr Dylan Thomas Rachel Trezise; a’r bardd, nofelydd a chyn-gadeirydd Gwobr T.S. Eliot Pascale Petit.

 

“Mae hi’n fraint cael beirniadu gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni. Dwi’n edrych ymlaen at drafod y cyfrolau efo fy nghyd-feirniaid sydd â chymaint o brofiad yn y gwahanol feysydd. Mae hi wastad yn bleser gweld cymaint o destunau gwreiddiol yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg, ac mae hyn yn dyst nid yn unig i waith anhygoel yr awduron eu hunain, ond hefyd y gweisg sy’n eu cefnogi.”

 

  • Tudur Dylan Jones

 

I ganfod mwy am y panel beirniadu, ewch i dudalen prosiect Llyfr y Flwyddyn.

 

 

Y Seremoni Wobrwyo

 

Bydd Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2024 yn cael ei chynnal yn y Galeri yng Nghaernarfon nos Iau 4 Gorffennaf.

 

“Pleser yw croesawu seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn ôl i Gaernarfon ac yma i Galeri ym mis Gorffennaf. Dyma fydd y trydydd tro i’r seremoni gael ei chynnal yn Galeri ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu prif lenorion a beirdd Cymru a’r cyhoedd ynghyd i’r dathliad blynyddol pwysig yma yn y calendr llenyddol.”

-Steffan Thomas, Prif Weithredwr Galeri

 

Bydd tocynnau cyhoeddus i’r seremoni ar gael i’w prynu gan Galeri yn dilyn cyhoeddi’r Rhestr Fer fis Mai, gyda’r holl fanylion ar gael ar dudalen brosiect Llyfr y Flwyddyn.

 

 

Partneriaid y Wobr

Eleni mae Llenyddiaeth Cymru yn croesawu noddwyr a phartneriaid newydd, yn cynnwys un o’u Prif Noddwyr, Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd a fydd yn noddi Prif Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2024. Yn ogystal,  Brecon Carreg, Cwrw Llŷn a Distyllfa Penderyn bydd yn noddi Seremoni Wobrwyo 2024.

 

“Rydym yn falch iawn o noddi Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Bydd ein staff a myfyrwyr ysgrifennu creadigol, a'n ymchwilwyr llenyddol yn elwa’n aruthrol o’r arbenigedd, y wybodaeth a’r profiad a gynigir gan dîm Llenyddiaeth Cymru, yn ogystal â’r cyfleoedd i gymryd rhan mewn digwyddiadau ac ymgysylltu â’r awduron, y beirniaid a’r gymuned o ddarllenwyr.”

 

  • Yr Athro Mark Llewellyn, Pennaeth yr Ysgol Saesneg, cyfathrebu ac Athroniaeth

 

Yn ôl yr arfer, bydd gan y cyhoedd gyfle i leisio eu barn trwy bleidleisio dros eu hoff gyfrol ar y Rhestr Fer. Bydd y gwasanaeth newyddion, Golwg360, yn cynnal pleidlais Barn y Bobl unwaith eto eleni, ac am y tro cyntaf, bydd Nation.Cymru yn cynnal pleidlais y People’s Choice Prize ar eu gwefan.

Unwaith eto, bydd Llenyddiaeth Cymru yn cydweithio gyda BBC Cymru Wales i ddod â’r holl newyddion diweddaraf i chi, gan gynnwys cyhoeddi’r Rhestr Fer yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 13 Mai.

Gallwch ddarganfod mwy am bartneriaid a noddwyr Llyfr y Flwyddyn yma.