Llais Dyslecsia – Prosiect Creadigol Cymraeg i amlygu lleisiau plant sydd â dyslecsia a'r Galwad am Newid.

Ysgrifenwyd  'Tu Draw' gan Fardd Plant Cymru Casi Wyn ar ôl gweithdai creadigol gyda phlant ysbrydoledig 9-11 oed. Pwrpas y prosiect yw codi ymwybyddiaeth o ddyslecsia yng Nghymru drwy ddod â phlant gyda dyslecsia ynghyd i rannu a rhoi llwyfan i’w profiadau - i roi llais i ddyslecsia yng Nghymru.

Bwriad Shari Llewelyn, Cynhyrchydd ac artist y prosiect, oedd codi ymwybyddiaeth a thaflu goleuni ar faterion dyslecsia â’r Gymraeg drwy rym y celfyddydau i geisio cael gwell dealltwriaeth o’r cyflwr yng Nghymru – ei effeithiau a’i fuddion gan sbarduno hyder a balchder mewn plant gyda dyslecsia, ar ôl iddi ddarganfod bod gan ei merch dyslecsia.

Gydag arian cronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru; Canolfan Dyslecsia Miles, Prifysgol Bangor; Casi Wynbardd plant Llenyddiaeth Cymru a chefnogaeth Ysgol Tryfan, Bangor Cynhaliwyd cyfres o weithdai yn Pontio dros hanner tymor Chwefror 2023 ac fe’u cynlluniwyd yn ofalus i godi hyder y plant gan ddathlu eu cryfderau, eu lleisiau creadigol a’u llwyddiant. Ymunodd y cerddor Elin Taylor a'r ddawnswraig Angharad Harrop i ysbrydoli yn ogystal.

Cynhyrchwyd ffilm ddogfen fer gan Ffion Jon Williams o'r gweithdai, sy’n cynnwys cyfweliadau gyda'r plant, rhieni a phartneriaid y prosiect. Mae’r fideo 'Tu Draw' yn cynnwys Casi Wyn a Nanw Jones, un o'r plant fu’n cymryd rhan yn y prosiect, yn adrodd cerdd gan Casi yn ymateb i eiriau’r plant yn y gweithdai. Gwelir hefyd haen o animeiddio gan y dylunydd Dan Parry Evans wedi ei blethu gyda darluniadau Shari Llewelyn.

Dywedodd Casi Wyn, Bardd Plant Cymru: "Fy mwriad wrth greu'r gerdd 'Tu Draw' oedd creu rhywbeth y byddai'r plant yn ei berchnogi... fy nod oedd i wrando gymaint â phosib. Beth mae 'Tu Draw' yn ein cyfeirio ni ato yw ein bod ni'n parchu ac yn anrhydeddu gallu geiriau i’n helpu ni i gyfathrebu gyda'n gilydd, ond bod pethau ddim mor ddu a gwyn - os fedrwch chi ddefnyddio geiriau yna ti'n glyfar - ein bod ni'n mesur tu draw i hynny."

Cawn glywed gan Dr Manon Jones Cyfarwyddwr Canolfan Dyslecsia Miles a gan Ruth Elliott cydlynydd y ganolfan a'r prosiect "Gobeithio yn y dyfodol bydd mwy o brosiectau fel 'Llais Dyslecsia' i roi cyfle i bawb cael rhywle saff i ddatblygu sgiliau i fod yn llwyddiannus efo dyslecsia"

Mae'r wybodaeth yn aml yn gamarweiniol o gwmpas y cyflwr a phrin iawn yw'r sylw a'r cysondeb sydd ar gael yn yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Yn aml mae pryderon o fethu ymysg plant ac oedolion, all achosi cyflyrau eraill. Gan nad oes digon o ddealltwriaeth am ddyslecsia ar gael, gyda'r wybodaeth a'r adnoddau yn yr iaith Gymraeg yng Nghymru yn aml yn anodd ei gyrraedd ac yn gostus.

Galw am newid - Yr angen i weithredu am hyfforddiant am ddim i holl athrawon Cymru a hynny’ n ddwyieithog yn lle fod yn rhaid i athrawon dalu eu hunain am hyfforddiant a hynny yn amser prin eu hunain.

Cyfrannwch eich profiad chi:

Mae Canolfan Dyslecsia Miles yn adnabod problemau ynghlwm â diagnosis hwyr i blant a diffyg adnoddau a hyfforddiant i addysgwyr, a hynny’n benodol yn y Gymraeg. Yn sgîl y prosiect mae’r Ganolfan yn gwahodd pobl sydd â dyslecsia; pobl sydd â phlant, partneriaid, ffrindiau neu rieni sydd â dyslecsia; a phobl sy'n gweithio gyda rhai sydd ag anawsterau llythrennedd a dyslecsia i rannu eu profiadau. Gellir rhannu profiadau trwy ddilyn y ddolen hon. Bydd y wybodaeth a gesglir yn cefnogi gwaith Canolfan Miles i wneud y llwybr tuag at ddiagnosis a chael mynediad at gefnogaeth yn haws.

Lle i weld y ffilmiau: 

Mi fydd y prosiect yn cael ei rannu ar AM yma: https://amam.cymru/llaisdyslecsia