Mae perfformwyr ifanc hynod dalentog Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Côr Cenedlaethol Ieuenctid CymruTheatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn barod i ddangos eu hangerdd a'u potensial.

Yr haf hwn, bydd dros 230 o actorion, cerddorion, a chantorion ifanc 16-22 oed yn perfformio mewn cyngherddau a chynyrchiadau ledled Cymru.

28 – 30 Gorffennaf, bydd Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio mewn cyngherddau ym Mangor, Aberystwyth a Chaerdydd.

Wedi'i arwain gan Paul Holland, bydd band pres yn dangos ei hyblygrwydd gyda darnau sy'n cynnwys High Peak gan Eric Ball, Five Blooms in a Welsh Garden gan Gareth Wood ynghyd â cherddoriaeth gan Debussy, Walton a Paul Lovatt-Cooper. Mae’r unawdydd cornet a’r seren newydd o Wlad Belg, Lode Violet, yn dod â’i ddawn ifanc ei hun i’r arlwy.

1 – 5 Awst, bydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio mewn digwyddiadau ym Mangor, Llanbedr Pont Steffan a Chaerdydd, yn ogystal â dwy ŵyl, yn Nhyddewi.

Wedi'i harwain gan Carlo Rizzi, bydd y gerddorfa yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith drwy ardaloedd gwledig gwlad Tsiec gyda Vltava o Má vlast gan Smetana. Bydd hefyd yn perfformio Four Last Songs gan Richard Strauss gyda'r soprano Elizabeth Llewellyn, a Symffoni Rhif 5 gan Shostakovich.

25 – 28 Awst, bydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio mewn cyngherddau ym Mangor a Chaerdydd, yn ogystal â gŵyl yn Nhyddewi.

Mae cantorion CCIC wedi cael dweud eu dweud gan lunio rhaglen o'u ffefrynnau ar gyfer y cyngherddau eleni. Bydd cynulleidfaoedd yn cael blas ar bopeth o gerddoriaeth atmosfferig Eric Whitacre i alawon hyfryd cyfansoddwyr Cymreig. Bydd hyd yn oed drefniant o un o ganeuon chwedlonol Stevie Wonder i'w glywed hefyd. Tim Rhys-Evans, sy'n fwyaf adnabyddus am ei waith gydag Only Men Aloud ac Only Boys Aloud, yw'r arweinydd.

31 Awst – 2 Medi, bydd addasiad newydd o glasur Dylan Thomas ar gyfer lleisiau ifanc beiddgar Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Dan y Wenallt / Under Milk Wood, yn cael ei llwyfannu yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd.

Daw byd telynegol Llaregubb a'r Gymru gyfoes ynghyd mewn cydblethiad o'r Gymraeg a'r Saesneg, a fydd yn fwrlwm o gerddoriaeth, meicroffonau a phedalau dolen. Cafodd y cynhyrchiad hynod wreiddiol hwn ei addasu gan Mari Izzard, yn seiliedig ar ddrama wreiddiol Dylan ar gyfer lleisiau a chyfieithiad Cymraeg gan T James Jones. Emma Baggott yw'r cyfarwyddwr.

Mae rhywbeth at ddant pawb yn yr arlwy yr haf hwn. Cyfle gwych i brofi, a chefnogi, angerdd ac addewid perfformwyr ifanc o bob cwr o Gymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau ac i brynu tocynnau, ewch i wefan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru www.ccic.org.uk