Gwasg y Mis AM fis yma yw Firefly Press, gwasg annibynnol, arobryn ar gyfer plant a phobl ifanc wedi ei leoli yng Nghymru. Mae Firefly Press yn cyhoeddi ffuglen ym mhob genre ar gyfer oedranau 5-19. Maent yn dathlu eu degfed penblwydd eleni.

Mae Gwasg y Mis yn gyfle i gefnogi byd cyhoeddi Cymru drwy rannu cynnwys gan wasg gwahanol ar dudalen flaen AM pob mis. Mae yna lwyth o gynnwys digidol gan Firefly i fwynhau fel rhan o’r nodwedd, yn cynnwys lansiadau, cyfweliadau a darlleniadau gan rai o awduron plant a phobl ifanc mwyaf blaenllaw Cymru, yn cynnwys Alex Wharton, Eloise Williams a Cathy Faulkner. Mae yna hefyd gyfle i ddysgu mwy am newyddion diweddaraf y wasg, megis cyhoeddiad am gyfrol newydd o gerddi sydd yn dathlu amrwyiaeth a chynhwysoldeb yng Nghymru wedi ei olygu gan Hanan Issa, a’r datganiad bod ‘Blue Book of Nebo’ gan Manon Steffan Ros wedi ennill Medal Yoto Carnegie.

Mae yna hefyd adran siop, sydd yn hyrwyddo’r llyfrau diweddaraf i’w cyhoeddi drwy Firefly Press, yn ogystal â chyhoeddiadau cyffrous i ddod. Mi allwch hefyd brynu fersiynau digidol o rai o lyfrau Firefly drwy’r adran eLyfrau.

Meddai Penny Thomas, cyhoeddwr Firefly: “Thank you so much, AM for featuring Firefly as your Publisher of the Month, and in our tenth anniversary year - we are really delighted. This is a terrific platform and we're proud to be a part of it. We hope your audience enjoy the chance to look at our books for children and young adults, not least the Carnegie Medal award-winning Blue Book of Nebo!”

Mwynhewch Gwasg y Mis Firefly Press ar dudalen flaen AM nawr!