Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn chwilio am ymgeiswyr i werthuso’r Dysgu creadigol yn y blynyddoedd cynnar.

Pwrpas Dysgu creadigol yn y blynyddoedd cynnar yw archwilio pa effaith mae mynd â dysgu creadigol i leoliadau'r Blynyddoedd Cynnar yn ei gael ar ddysgu a datblygu plant 3 – 5 oed.

Mae'n fenter tair blynedd gyda'r nod o ymgysylltu â chyfanswm o 70 o leoliadau gofal plant i gyd. Lansiwyd y fenter ar 14 Rhagfyr 2022 ac mae wedi recriwtio 13 lleoliad ar draws Cymru ym Mlwyddyn 1.

Mae'r fenter yn rhedeg tan 2025 a thrwy gydol yr amser hwnnw hoffem weithio gydag unigolyn neu sefydliad a all ein cefnogi i gyflawni;

•                   Adroddiad ffurfiol Blwyddyn 1 a fydd yn ein helpu i ddiwygio menter Blwyddyn 2 yn ôl y gofyn.

•                   Adroddiad cyfamserol Blwyddyn 2 sy'n nodi canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg.

•                   Adroddiad terfynol sy'n nodi effaith, gwersi a ddysgir ac argymhellion y gwerthusiad.

Os oes gennych chi ddull dychmygus o gynnal gwerthusiadau ac ymchwil, yna hoffem glywed gennych.

Gwybodaeth ychwanegol:

Hyd at £35,000 (heb gynnwys TAW) yw gwerth y contract a ragwelwn.

Bydd y contract yn dechrau ar 2 Mai 2023 ac yn parhau tan 28 Tachwedd 2025.

Dyddiac cau: 12pm 12 Ebrill 2023

Mae Dysgu creadigol yn y blynyddoedd cynnar yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru a Llywodraeth Cymru a gefnogir gan Sefydliad Paul Hamlyn.