Rydym ni eisiau edrych ar y sefyllfa i weld os ydym ni’n gallu gwneud pethau’n wahanol! Ellwch chi ein helpu ni?

Chwiliwn am rywun i greu gweledigaeth y dyfodol i’n cysylltiadau ariannu yn y sector.

Y cam cyntaf fydd cynnal cyfres o sgyrsiau â’r randdeiliaid i weld sut olwg a fydd ar Bortffolio Celfyddydol Cymru.

Ellwch chi ein helpu ni i wneud hyn mewn ffordd sy’n ateb cwestiynau o gwmpas os yw’r ffordd rydym ni’n ariannu sefydliadau’n gweithio ac os oes rhaid inni feddwl yn wahanol? Efallai ei bod hi’n amser i ailfeddwl yn llwyr ein perthynas gyda’r sector neu efallai fod eisiau ychydig iawn o newidiadau bach er mwyn ei chael yn iawn? 

Bydd cael y bobl gywir yno a strwythuro'r sgyrsiau yn allweddol. Rhaid i hyn ddigwydd mewn ffordd wahanol a diddorol. Dyma fydd eich gwaith chi.

Y brîff (yn gryno)

Rydym eisoes wedi cael rhai sgyrsiau diddorol gyda'r sector ond mae modd cael rhagor, yn enwedig yn sgil y pandemig a’i effaith ar ein sefydliadau. Soniodd pobl a aeth i’r gweithdai am y materion a fyddai’n gymorth iddynt wrth benderfynu ymgeisio am fod yn y Portffolio ai peidio.  Roedd y rhain yn cynnwys meysydd y byddem ni’n hoffi i weld wedi’u gwella a hynny’n rhan o’r tendr yma (manylion llawn ar GwerthwchiGymru)

Cyllid

£24,000 yw’r gyllideb uchaf sydd gennym. Cofiwch fod gwerth am arian yn un o'r meini prawf.

Gellir dod o hyd i fanylion llawn ar GwerthwchiGymru, a rhaid cyflwyno ceisiadau trwy'r platfform hwn. Dilynwch y ddolen a chofrestru / mewngofnodi i weld y tendr yn llawn.

Dyddiad cau

Cyflwynwch eich cais i borth GwerthwchiGymru erbyn 15:00, ddydd Gwener 25 Mawrth 2022.

Mae'r tendr hwn yn cael ei reoli drwy borth gwefan GwerthwchiGymru. Gellir cael rhagor o wybodaeth yma.

Dylech gyfeirio unrhyw gwestiynau drwy'r porth.